Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, fod oedi parhaus Llywodraeth y DU o ran darparu arian newydd gan yr UE i Gymru yn gadael cymunedau yn y tywyllwch, a fydd yn arwain at golli cyfleoedd gwaith i Gymru ac yn tanseilio prosiectau sydd mawr eu hangen

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yn y Senedd, ailadroddodd Gweinidog yr Economi sut y mae'r cronfeydd Adfywio Cymunedol a Chodi’r Gwastad ar gyfer y DU i gyd, sydd wedi eithrio Llywodraeth Cymru ac sy'n cael eu rheoli gan Weinidogion Llywodraeth y DU, yn gwrthod rhoi’r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen ar Gymru i sbarduno prosiectau sydd wir eu hangen. Byddai hyn yn helpu i greu swyddi ac yn hybu adferiad economaidd Cymru.

Dywedodd y Gweinidog fod hyn yn gwaethygu’r sefyllfa i Gymru.

O dan gynlluniau Llywodraeth y DU:

  • Mae'r cynllun peilot i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, o'r enw y Gronfa Adfywio Cymunedol, yn werth £220 miliwn ledled y DU yn y flwyddyn ariannol hon, gyda disgwyl i Gymru dderbyn tua £10 miliwn. Mae hynny tua £450,000 fesul awdurdod lleol. Pe bai'r DU wedi aros yn yr UE, byddai Cymru wedi cael ar gyfartaledd o leiaf £375 miliwn o gyllid strwythurol newydd gan yr UE bob blwyddyn am saith mlynedd o fis Ionawr 2021; byddai hyn ar ben cyllid o raglenni presennol yr UE.
  • O dan y Gronfa Codi'r Gwastad werth £4.8 biliwn ledled y DU, neilltuwyd cyfanswm o £800 miliwn ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon dros bedair blynedd, gyda disgwyl i Gymru dderbyn tua £30 miliwn eleni. Mae hynny tua £1.3 miliwn i bob awdurdod lleol yng Nghymru, gan gadarnhau nad oes sylwedd i frand Codi’r Gwastad.

Unwaith eto, anogodd y Gweinidog Lywodraeth y DU i beidio â thorri ymrwymiadau hirsefydlog drwy adfer y cyllid hwn i Gymru ac i beidio â chipio pŵer yn ddiangen.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Nid yw dull Llywodraeth y DU o ariannu ar ôl Brexit, o dan unrhyw amgylchiadau, yn cynrychioli ffordd dderbyniol o weithio mewn partneriaeth, heb sôn am gysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol.

"Mae hyn yn siomedig iawn o ystyried ymrwymiadau Prif Weinidog y DU yn dilyn yr uwchgynhadledd ym mis Mehefin ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol mwy effeithiol ledled y DU a pharodrwydd Prif Weinidog Cymru i gydweithio.

“ Dylai Gweinidogion y DU nodi'r sefyllfa fwyafrifol glir yn y Senedd hon. Yn wir, cynigiwyd prosbectws i bobl Cymru a oedd yn cymeradwyo cynlluniau Llywodraeth y DU yn etholiadau'r Senedd eleni ond ni chafodd hynny gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru. Mae mwyafrif clir ar gyfer dull gweithredu a wnaed yng Nghymru sy'n parchu datganoli.

"Dim ond chwe mis sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol hon ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi unrhyw geisiadau llwyddiannus am y cronfeydd Adfywio Cymunedol a Chodi’r Gwastad. Mae hyn er gwaethaf ei haddewid i gyhoeddi ceisiadau ym mis Gorffennaf. Mae partneriaid yn iawn i ofyn sut y mae prosiectau i fod i gyflawni erbyn mis Mawrth yn ôl y gofyn. Mae’r oedi hwn yn gadael cymunedau yn y tywyllwch ac yn peryglu'n wael yr hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer pobl a busnesau yng Nghymru.

"Mae gennym bryderon gwirioneddol hefyd am fygythiad cynlluniau Llywodraeth y DU ar raddfa cynlluniau a ariennir gan yr UE yn y dyfodol, gan gynnwys Busnes Cymru, y Banc Datblygu a Phrentisiaethau.

"Mae ein Fframwaith sy'n seiliedig ar gonsensws ar gyfer buddsoddi arian newydd yr UE yn adeiladu ar flynyddoedd o ymgysylltu â phartneriaid, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau clir i Gymru.  Dyma sut mae gweithio fel Tîm Cymru yn edrych.

" Rwyf wedi ei gwneud yn glir i’r  Ysgrifennydd Gwladol newydd Michael Gove ein bod yn agored i drafodaethau ystyrlon ar y ffordd orau o gydweithio i sicrhau bod yr arian hwn yn llwyddiant i Gymru.

"Mae gan Lywodraeth y DU gyfle i ddangos ei bod wedi gwrando ac i ddod â'r oes sy'n dweud wrth Gymru 'Byddwch yn cael yr hyn a roddir i chi' – i ben.”