Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi estyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid yng Nghymru tan fis Chwefror 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Cynllun Cymhellion Cyflogwyr i Brentisiaid yn rhan allweddol o Ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau a gweithwyr i wella o effeithiau’r coronafeirws.

Diolch i’r cymhellion, rydym eisoes wedi gweld mwy na 5,500 o brentisiaid newydd yn cael eu recriwtio ers mis Awst 2020.

Roedd y cynllun i fod i fod i gau ddoe (30 Medi 2021), ond bydd y cynllun nawr yn parhau i gefnogi busnesau tan 28 Chwefror 2022.

O dan y cynllun gall busnesau hawlio hyd at £4,000 am bob prentis newydd y maent yn ei gyflogi sydd o dan 25 oed.

Bydd y cymhelliant o £4,000 ar gael i fusnesau sy'n cyflogi prentis ifanc am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Gallai busnesau o Gymru hefyd dderbyn £2,000 am bob prentis newydd o dan 25 oed y maent yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos.

Ar gyfer gweithwyr 25 oed a hŷn, gall busnesau gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd y maent yn ei gyflogi ar gontract o 30 awr neu fwy, a chymhelliant o £1,000 ar gyfer prentisiaid sy'n gweithio llai na 30 awr.

Cyfyngir taliadau i ddeg dysgwr fesul busnes. Mae cyllid pwrpasol hefyd ar gael i recriwtio pobl anabl.

Rhoddwyd cyfanswm o £18.7m i gefnogi'r cynllun yn 2021 i 2022.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth hanfodol i fusnesau a gweithwyr trwy gydol y pandemig ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar hynny.

“Cydnabyddwyd effaith economaidd neilltuol COVID-19 ar bobl o dan 25 oed, ac rydym eisoes yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr yn ei gael ar y grŵp oedran penodol hwnnw, ac ar grwpiau oedran eraill hefyd. Rwyf eisiau gweld hynny’n parhau ochr yn ochr â’n Gwarant i Bobl Ifanc uchelgeisiol. Mae Llywodraeth Cymru'n benderfynol na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig.

“Gall prentisiaid helpu i sicrhau dyfodol gweithlu, ei gymell a’i amrywio – gan gynnig cyfle i bobl ddatblygu sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel. Maent hefyd yn hanfodol i’n cynlluniau ar gyfer adfer yr economi ar ôl Covid-19. Dyna pam fy mod wedi ymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed dros y pum mlynedd nesaf.

“Rydym yn wlad fechan ond mae’n huchelgais yn fawr, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn beth cyffredin i gyflogwyr.”

Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru, sef ‘Yn Gefn i Chi’, yn annog busnesau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar gymorth recriwtio a sgiliau ar gyfer gweithwyr newydd a gweithwyr sydd eisoes gyda’r cwmni, sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau Busnes.

Am ragor o wybodaeth ewch i Borth Sgiliau Busnes Cymru.

Mae’r Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.