Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfreithiwr amgylcheddol a gwledig profiadol iawn wedi cael ei phenodi’n asesydd interim diogelu’r amgylchedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Dr Nerys Llewelyn Jones yn dechrau ar ei swydd newydd ar 1 Mawrth.

Cafodd y swydd dros dro ei chreu yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y swydd yn para dwy flynedd ac yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu corff goruchwylio amgylcheddol parhaol, gan ganiatáu cyfnod pontio rhwng y trefniadau interim hyn a’r rhai newydd.

Bydd y Dr Llewelyn Jones yn ystyried y materion y bydd y cyhoedd yn eu codi am y ffordd y mae cyfreithiau amgylcheddol yn cael eu gweithredu yng Nghymru ac yn rhoi cyngor ac argymhellion i’r Gweinidog. Bydd ei rôl yn ategu rolau cyrff rheoleiddio presennol Cymru.

Cyhoeddwyd penodiad y Dr Llewelyn Jones heddiw (Mercher, 24 Chwefror) gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Mae’r Dr Llewelyn Jones yn gweithio fel partner rheoli yn ei phractis o gyfreithwyr gwledig, Agri Advisor. Mae hefyd yn Aelod o Banel Perchenogion Tir Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, yn Is-gadeirydd y Gymdeithas Cyfraith Amaethyddol ac mae ganddi brofiad helaeth o sectorau amaethyddol ac amgylcheddol Cymru.

Mae hi’n cadw defaid yn ei fferm yn Sir Gâr lle mae’n byw gyda’i gŵr a’i dau grwt ifanc.

Dywedodd y Dr Llewelyn Jones:

“Dwi’n hynod hapus fy mod wedi cael fy mhenodi i’r swydd hon a dwi’n ddisgwyl mlaen at ystyried sut y mae cyfreithiau amgylcheddol yn gweithio yng Nghymru.”

Dywedodd y Gweinidog:

“Rwy’n falch bod y Dr Llewelyn Jones yn ymuno â ni pan fydd angen ei harbenigedd a’i phrofiad i’n helpu i ddeall beth sydd angen ei wneud wrth inni ddatblygu corff goruchwylio parhaol i Gymru.

 “Gan ddymuno’r gorau iddi yn ei swydd.”