Flwyddyn ar ôl llofruddiaeth drasig George Floyd yn yr Unol Daleithiau, ailbwysleisiodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru wirioneddol wrth-hiliol.
Dywedodd Jane Hutt:
Heddiw rydym yn nodi blwyddyn ers llofruddiaeth drasig a ffiaidd George Floyd yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn galaru ei farwolaeth a marwolaeth pawb sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau oherwydd hiliaeth.
Rydym yn sefyll mewn undod â phawb sy'n ymgyrchu dros gydraddoldeb ac am roi terfyn ar hiliaeth sefydliadol. Rwyf am ei gwneud yn glir y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn brwydro dros gymdeithas fwy cyfartal a chyfiawn.
Nid oes lle i hiliaeth a phob math o gasineb a rhagfarn yn ein cymdeithas.
Gan dynnu sylw at bwysigrwydd y dyddiad hwn a phwysigrwydd gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â hiliaeth, amlinellodd Jane Hutt nodau allweddol Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Jane Hutt:
Nid yw mynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yn ymwneud â geiriau'n unig, mae'n ymwneud â'n gweithredoedd. Dim ond drwy wrando a gweithredu y gallwn sicrhau newid gwirioneddol.
Dyna pam rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft at ddibenion ymgynghori ar 24 Mawrth.
Bydd y Cynllun, a ddatblygwyd ar y cyd, yn ein helpu i greu'r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydym i gyd am ei gweld.
Bwriedir iddo fod yn Gynllun ymarferol, sy'n amlinellu camau penodol i'w cymryd ar draws yr holl feysydd polisi allweddol a ddeilliodd o'n gwaith datblygu ar y cyd.
Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo iddo ac yn atebol amdano.
Mae bod yn wrth-hiliol yn gofyn i ni i gyd wneud ymdrech ymwybodol a gweithgar i herio hiliaeth lle bynnag y gwelwn ni hynny.
Mae cymaint i'w wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb systemig hirdymor a hiliaeth. Dyna pam rydym am i bob rhan o gymdeithas Cymru ymgysylltu â'r ymgynghoriad a'n helpu i'w gyflawni.
Mae’n amser am newid. Yr amser i daclo hiliaeth yw nawr.