Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cydnabod pwysigrwydd gwaith ieuenctid wrth helpu pobl ifanc i chwarae rôl amlwg yn eu cymunedau a’u cefnogi â’u datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol.
Ond mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i waith ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid yn mynd y tu hwnt i wythnos o ddathliadau gyda’r cyllid yn fwy na dyblu i dros £10 miliwn eleni.
Bydd hyn yn mynd tuag at helpu i sicrhau y gall pobl ifanc fanteisio ar y gwasanaethau hollbwysig hyn ar unrhyw adeg, ble bynnag maen nhw’n byw, a bydd hefyd yn cynnwys £2.5 miliwn i gefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl a’u lles. Bydd £3.7 miliwn arall yn mynd i helpu osgoi digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn ymuno â mudiadau gwaith ieuenctid yn y Senedd yfory ar gyfer digwyddiad i ddangos y gwaith sy’n cael ei wneud ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid i dynnu sylw at yr effaith mae gwaith ieuenctid yn ei chael ledled Cymru ac i gyhoeddi’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd.
Mae’r strategaeth, a gafodd ei seilio ar leisiau pobl ifanc ac a ddatblygwyd ar y cyd â phartneriaid allweddol o fewn y sector gwirfoddol, y gwasanaethau statudol, y Safonau Addysg a Hyfforddiant, Cyngor y Gweithlu Addysg, ac Estyn, yn cynnig gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru gyda 5 nod allweddol a fydd yn sicrhau fel a ganlyn:
- Bod pobl ifanc yn ffynnu
- Bod gwaith ieuenctid ar gael i bawb a’i fod yn gynhwysol
- Bod staff gwaith ieuenctid proffesiynol gwirfoddol a chyflogedig yn cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfa i wella eu harferion
- Bod gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall
- Bod gennym fodel cynaliadwy ar gyfer cyflwyno gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Gan ailbwysleisio ei hymrwymiad i gyflawni’r nodau hyn, dywedodd Kirsty Williams:
“Rwyf am i Gymru fod yn wlad lle mae pobl ifanc yn ffynnu, yn wlad lle mae ganddyn nhw’r cyfle i fanteisio ar gyfleoedd a phrofiadau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a fydd yn rhoi mwynhad iddynt ac yn cyfoethogi eu datblygiad personol.
“Edrychaf ymlaen at gyhoeddi ein Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar ran ein pobl ifanc a’n partneriaethau o fewn y sector. Mae’n amlinellu’n glir y dyfodol positif ry’n ni am ei gynnig ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.”
Dywedodd Rachel Benson, Rheolwr Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Rhaglenni gydag Youth Cymru:
“Mae Youth Cymru yn falch iawn cael bod yn rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni. Mae’n gyfle gwych i ni godi proffil gwaith ieuenctid, dathlu ei effaith a dod ynghyd i rannu arferion gorau.
“Cafodd pobl ifanc sy’n rhan o Youth Cymru a’r sefydliadau sy’n aelodau ohono gyfle i lywio a chyfrannu at y Strategaeth newydd. Fe sonion nhw am bwysigrwydd sicrhau bod gwaith ieuenctid ar gael i bawb, ei fod yn gynhwysol a’i fod yn cynnig mannau diogel i bobl ifanc ddatblygu a ffynnu oddi mewn iddynt. Rydyn ni’n croesawu ei chyhoeddi a’r weledigaeth sydd ynddi.”
Bydd y seremoni i ddyfarnu Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid yn cael ei chynnal yn hwyrach yr wythnos yma ddydd Gwener, 28 Mehefin yng Ngwesty’r Cei, Deganwy yng Nghonwy. Eleni fydd y 25ain blwyddyn ers sefydlu’r gwobrau.
Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymuno â phobl ifanc a gweithwyr ieuenctid o bob rhan o Gymru yn y seremoni arbennig yma i ddathlu cyfraniad gwaith ieuenctid ac i nodi llwyddiannau’r enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ledled Cymru i nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid – cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu eich sefydliad gwaith ieuenctid am ragor o wybodaeth.