Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr Gronfa Gynghori Sengl gwerth £8.04 miliwn a fyddai’n galluogi i wasanaethau cymorth, dan arweiniad Cyngor ar Bopeth Cymru, gynnig cyngor am ddim ar ddyledion, tai, cyflogaeth, budd-daliadau lles a materion eraill hyd fis Rhagfyr 2020. Mae’r cyllid hwn bellach wedi’i estyn hyd fis Mawrth 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae’n hollbwysig sicrhau bod modd i’r bobl fwyaf agored i niwed o fewn ein cymunedau fanteisio ar gyngor diduedd ac am ddim y gallant ymddiried ynddo, ac yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rhwng mis Ionawr a mis Mehefin gwnaeth dros 52,000 o bobl yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau cyngor er mwyn helpu i ddatrys problemau gan gynnwys budd-daliadau lles, cyflogaeth a dyledion. Gwnaeth gwasanaethau cynghori addasu yn ystod y cyfnod clo, gan roi blaenoriaeth i gymorth dros y ffôn, dros e-bost a sgyrsiau dros y we, ond mae gwasanaethau wyneb yn wyneb ar fin ailddechrau gan fod rhai cyfyngiadau wedi’u llacio.”

Mae’n hollbwysig sicrhau y gall pobl fanteisio ar gyngor cywir sydd ar gael am ddim, ac nid yw’r problemau y mae pobl wedi bod yn eu hwynebu wedi diflannu. Mae’n bleser gen i felly gadarnhau y byddwn yn parhau i roi cyllid i Cyngor ar Bopeth Cymru a’u partneriaid hyd fis Mawrth 2021 fan lleiaf. Bydd y cyllid hwn yn eu galluogi i gynnig y cyngor a’r cymorth cynhwysfawr sydd eu hangen ar drigolion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu hincwm, datrys problemau cyflogaeth a rheoli dyledion.

Dywedodd Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru:

Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod modd i bobl dderbyn cyngor cywir ac annibynnol yn ddidrafferth. Rydym wedi trawsnewid ein gwasanaeth er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau sy’n parhau i newid ac rydym wedi sicrhau ein bod ar gael i bobl waeth beth fo’u hamgylchiadau.

Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi estyn y Gronfa Cynghori Sengl hyd fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i gydweithio â’n partneriaid er mwyn cefnogi pobl wrth iddynt wynebu gwahanol broblemau, ac nid COVID-19 yn unig, gan sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth a’r hyder ar gyfer symud ymlaen – waeth pwy ydynt a beth bynnag y bo eu problem.