Mae Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn argyfwng hinsawdd, a hithau ar fin cyfarfod â Gweinidogion y DU a'r Alban yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r datganiad yn neges glir gan Lywodraeth Cymru na chaiff y broses o adael yr UE ein dallu i her y newid yn yr hinsawdd, sy'n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a'n hamgylchedd naturiol.

Wrth i weinidogion amgylchedd y DU, Cymru a'r Alban gwrdd yng Nghaerdydd heddiw, mae'r cyhoeddiad yn tanlinellu aruthredd a phwysigrwydd tystiolaeth ddiweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd a'r protestiadau diweddar ynghylch yr hinsawdd ledled y DU.

Ddiwedd yr wythnos hon, cyhoeddir cyngor diweddaraf corff cynghori statudol Llywodraeth Cymru, Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, ar sut y bydd ceisio gwireddu nodau Cytundeb Paris yn effeithio ar dargedau statudol tymor hir Cymru ar y newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Rwy'n credu ein bod yn ddigon penderfynol a dyfeisgar yma yng Nghymru i allu cynnal economi carbon isel yr un pryd â chreu cymdeithas decach ac iachach.

"Rydyn ni'n gobeithio y gall y datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol. Gan ein cymunedau, busnesau a sefydliadau'n hunain a seneddau a llywodraethau ledled y byd.

"Nid yw taclo'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ei adael i unigolion a'r farchnad rydd. Rhaid wrth weithredu ar y cyd, ac mae gan y llywodraeth ran ganolog i'w chwarae yn hyn o beth.

"Does yr un wlad yn y byd wedi llwyr sylweddoli'r her ond yn union fel y gwnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, rwy'n credu y gall Cymru fod yn esiampl i eraill o'r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu.

"Mae'n deddfwriaeth ar ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd eisoes yn esiampl i'r byd a rhaid inni nawr ddefnyddio'r ddeddfwriaeth honno i gyflymu camau'r newid."

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo y bydd ein sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030 a bydd yn cydweithio ag eraill, gan gynnwys academia, diwydiant a'r trydydd sector, i helpu rhannau eraill o'r economi i droi oddi wrth danwyddau ffosil. Fis diwethaf, cyhoeddodd Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel a'i 100 o bolisïau a chynigion i gwrdd â thargedau allyriadau carbon 2020.

Mae'r cynllun ar gyfer 2021-26 eisoes yn cael ei baratoi ac aiff yn gynt ac yn bellach. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ystyried sut y dylai ffermwyr gael eu helpu ar ôl Brexit gyda'r elfen nwyddau cyhoeddus ac mae'n diweddaru'i Chynllun Adfer Natur i sbarduno gweithredu brys i gryfhau ecosystemau er mwyn gwyrdroi'r dirywiad yn ein cynefinoedd a rhywogaethau.