Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cefnogi gwirfoddolwyr, elusennau a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i Covid-19. Byddant yn cael cymorth ariannol ychwanegol i helpu i ddiwallu eu hanghenion.
Mae dros £2.5m o gyllid grant wedi’i ddyfarnu i 27 o sefydliadau drwy Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws Llywodraeth Cymru, i helpu i gynnal y gwaith o wirfoddoli a gweithredu yn y gymuned wrth adfer o’r pandemig Covid-19.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a sefydliadau sector cyhoeddus drwy gydol y pandemig Covid-19, gan helpu elusennau a grwpiau trydydd sector i ehangu ac addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion penodol.
Mae’r cyllid grant hwn yn cydnabod y cyfraniad anferth y mae sefydliadau gwirfoddol wedi’i wneud wrth weithio ar y rheng flaen i gefnogi ein cymunedau mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r partneriaethau y maent wedi’u ffurfio.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella systemau neu gyflwyno systemau newydd, ac i helpu i recriwtio, hyfforddi a dal gafael ar wirfoddolwyr. Bydd y grantiau hefyd yn rhoi hwb i bartneriaethau rhwng sefydliadau trydydd sector a chyrff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i helpu i gael effaith barhaol ar gymunedau.
Hoffwn gydnabod a dathlu’r gwaith y mae grwpiau gwirfoddol, elusennau a’r trydydd sector wedi’i wneud ledled Cymru. Mae’r gwaith hwn wedi darparu cymorth yr oedd gwirioneddol ei angen yn ystod cyfnod heriol iawn. Diolch ichi am barhau i ddiogelu llesiant Cymru, ei phobl a’i chymunedau. Mae eich ymroddiad wedi ysbrydoli pob un ohonom.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Matthew Brown:
Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i unigolion a chymunedau dros y flwyddyn ddiwethaf, ers dechrau’r pandemig. Nawr gyda'r rhaglen frechu ar y gweill, bydd gan mudiadau gwirfoddol ran allweddol i'w chwarae yn yr adferiad. Felly mae'n hanfodol bod yr arian hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi mudiadau i ailadeiladu a chryfhau ein cymunedau.