Heddiw (5 Mai) mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi amlinellu Cynllun Ymateb uchelgeisiol er mwyn paratoi Cymru ar gyfer cam nesaf y pandemig COVID-19.
Bydd y Cynllun Ymateb er mwyn Diogelu Iechyd y Cyhoedd yn nodi sut y bydd rhaglen effeithiol o brofi, monitro ac olrhain, ynghyd â thechnoleg ddigidol, yn allweddol er mwyn rheoli trosglwyddiad y feirws. Bydd yn amlinellu’r hyn y gellir ei wneud yn gyflym, ar y cyd ag asiantaethau a sefydliadau ledled Cymru, i lywio’r wlad drwy’r cyfnod adfer.
Bydd y cynllun yn manylu ar dri cham o bwys a fydd yn cael eu rhoi ar waith ym maes iechyd y cyhoedd, a hynny ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen yng Nghymru:
- Olrhain cysylltiadau er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu
- Gwyliadwriaeth
- Samplu a phrofi
Bydd y broses o olrhain cysylltiadau yn cael ei defnyddio i ddod o hyd i bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun yr amheuir bod COVID-19 arno, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu. Defnyddiodd Llywodraeth Cymru’r dull hwn yn ystod cyfnod cynnar y clefyd, er mwyn cyfyngu ar ei ledaeniad. Bydd y broses yn cael ei chynnal nawr ar raddfa lawer yn fwy, a fydd yn golygu bod angen gweithlu mawr a phenodedig i weithredu timau olrhain a fydd yn cael eu cydlynu’n rhanbarthol. Byddant yn cael eu cynorthwyo gan dechnoleg er mwyn sicrhau bod camau dilynol yn cael eu cymryd yn gyflym ac yn effeithiol.
Bydd camau gwyliadwriaeth yn cael eu defnyddio i fonitro’r clefyd er mwyn helpu i ganfod natur a lledaeniad COVID-19 mewn ysbytai, cartrefi gofal a chymunedau. Bydd y data’n cael ei gyhoeddi, felly bydd gwybodaeth dryloyw ar gael am hynt y gwaith.
Bydd samplu a phrofi yn rhan allweddol o’r ymateb hwn. Bydd mwy o gyfleusterau profi ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ddefnyddio canolfannau profi drwy ffenestr y car, faniau symudol a phrofion yn y cartref. Wrth inni symud i’r cyfnod adfer, bydd cael data profi amserol a chywir yn dod yn bwysicach fyth er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. O’r dechrau’n deg, mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod y canolfannau profi a sefydlwyd yng Nghymru gan Lywodraeth y DU a Deloittes yn defnyddio profion y gellid eu prosesu yng Nghymru, gan sicrhau felly bod y data’n cael ei gadw i’w ddefnyddio gan GIG Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Gweithredu ein Cynllun Ymateb fydd un o’r heriau iechyd y cyhoedd mwyaf y bydd Cymru yn ei hwynebu fyth. Does dim ateb cyflym i’w gael. Rydyn ni’n gwybod y bydd COVID-19 yn parhau i gael ei drosglwyddo nes bod brechlyn ar gael, neu bod digon o bobl yn datblygu imiwnedd ymysg y boblogaeth.
“Rydyn ni eisoes wedi gofyn cryn dipyn gan bobl Cymru ac mae’r ymateb wedi bod yn ysgubol. Nawr rhaid i ni ofyn am fwy fyth gan bob un ohonoch chi er mwyn i’r cynllun hwn lwyddo. Mae’r cynllun hwn yn fenter ar y cyd gyda’n partneriaid ledled Cymru, ac mae’n rhaid i hynny barhau.
“Mae pob cam rydyn ni eisoes wedi’u cymryd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Wrth edrych ar yr aberth mae pobl wedi’i wneud dros y 6 wythnos ddiwethaf, gallaf ddweud yn bendant bod yr her anferth sy’n ein hwynebu yn cael ei hateb gan ymrwymiad pob un ohonom ni i guro’r feirws. Wrth wneud hynny, rydyn ni’n anrhydeddu pob person sydd wedi colli eu bywydau mewn ffordd mor drasig i COVID-19.”