Wrth i Gymru barhau i lywio heriau niferus coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed o'r blaen.
Mae hyn yn cynnwys darparu £270 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnes drwy Fanc Datblygu Cymru. Gan weithredu ochr yn ochr â chyfres o gymorth arall gan y Banc Datblygu, mae hyn yn fuddsoddiad mawr mewn cyllid hygyrch i fusnesau a bydd yn helpu cwmnïau o Cymru i ganolbwyntio ar eu llwyddiant hirdymor.
Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chenhadaeth Cadernid Economaidd ac Ad-drefnu sy'n nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi ôl-COVID-19 Cymru fel ei bod yn gwerthfawrogi ac yn blaenoriaethu lles, yn sbarduno ffyniant, yn amgylcheddol gadarn, ac yn helpu pob person yng Nghymru i wireddu ei botensial.
Bydd y daith yn nodi'r gwerthoedd a'r blaenoriaethau fydd yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru nawr ac yn y dyfodol, fel bod pobl, busnesau a chymunedau Cymru yn cael eu cefnogi i lwyddo a ffynnu.
Mae'r blaenoriaethau'n cynnwys cryfhau sectorau bob dydd economi Cymru, cynyddu nifer yr achosion o waith teg ledled Cymru ac adfywio canol ein trefi.
Canolbwyntir hefyd ar gefnogi cwmnïau i arloesi ac arallgyfeirio, cyflymu datgarboneiddio busnesau a buddsoddi mewn seilwaith sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi £270 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru, gan ddod â'r cyfanswm a fuddsoddwyd drwy'r gronfa hon i £500 miliwn erbyn 2030. Bydd rhoi hwb i'r gronfa yn gwella'r cyflenwad o gyllid busnes hirdymor, hygyrch ac yn helpu mwy o gwmnïau i dyfu ac ehangu. Gall y gronfa wneud buddsoddiadau dyled ac ecwiti o rhwng £25,000 a £10 miliwn, gan gynnwys benthyciadau 15 mlynedd, i BBaChau a’r rhai nad ydynt yn BBaChau.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
"Mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn hynod o anodd i bawb ac er bod ein gwaith hanfodol i frwydro yn erbyn y feirws yn mynd yn ei flaen, mae'n bwysig ystyried beth sy'n dod nesaf.
"Mae gennym gyfle i edrych i'r dyfodol ac ail-greu'r economi gyda'r nod sylfaenol o sicrhau lles hirdymor gydag urddas a thegwch i bobl.
"Byddwn yn gwneud hyn drwy gryfhau'r economi bob dydd, cyflawni ein Hymrwymiad Covid i gefnogi pobl i wella sgiliau a chael gwaith, a thrwy helpu busnesau i ymateb i heriau a chyfleoedd heddiw ac yfory. Byddwn hefyd yn gwneud y mwyaf o fuddsoddiad cynaliadwy yng Nghymu ac yn sicrhau ein bod yn ceisio gwneud gwaith teg a gwerth cymdeithasol gyda busnesau a sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus.
"Bydd y cyllid ychwanegol o £270 miliwn i'r Banc Datblygu yn cefnogi busnesau ar hyd a lled Cymru, gan greu a diogelu miloedd o swyddi i unigolion wrth i ni geisio delio â heriau hirdymor Covid a Brexit.
Fel rhan o'r daith, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y mwyaf o fuddsoddiadau mawr yn y dyfodol drwy 'brosiectau magned', a fydd yn denu buddsoddiadau tymor hwy ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, sgiliau ac arloesi a datblygu pwysig.
Bydd ymrwymiad COVID-19 Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw effaith y pandemig yn gadael neb ar ôl a bod pob cyfle posibl i bobl ailhyfforddi ac uwchsgilio mewn ardaloedd newydd a thwf uchel.
Bydd y Contract Economaidd hefyd yn cael ei adnewyddu a'i gryfhau gan helpu busnesau i ymgorffori gwaith teg, carbon isel a gwydnwch yn yr hinsawdd yn eu gweithrediadau.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Mae gennym weledigaeth glir, foesegol a chydlynol ar gyfer cydnerthedd ac ailadeiladu economaidd sydd wedi'i hangori ar gyfiawnder cymdeithasol a chydag ymrwymiad y bobl, y cymunedau a'r busnesau sy'n rhan o'n heconomi, gwn y gallwn lwyddo i adeiladu economi a dyfodol ffyniannus a theg sy'n gweithio'n well i bawb.
Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru:
"Y nod o sicrhau economi gystadleuol a chynaliadwy sy'n codi safonau byw, yn hyrwyddo cyflog uwch, ac yn darparu'r refeniw sydd ei angen arnom i gefnogi blaenoriaethau cyhoeddus yw'r un cywir i Gymru.
"Ond ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar ei phen ei hun. O hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i wella iechyd meddwl, hyrwyddo ymddygiad gwyrdd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf; rhaid i fusnesau barhau i fod yn bartneriaid gwirioneddol i'r llywodraeth. Ar eu gorau, mae busnesau yn beiriannau cynnydd fydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth oresgyn y pandemig ac adeiladu economi well yng Nghymru.
"Mae ffynonellau ychwanegol o gyllid hygyrch i'w croesawu ac maent yn fuddsoddiad pwysig yng nghymuned fusnes Cymru, un a fydd yn cael ei ad-dalu drwy swyddi, twf ac, yn y pen draw, yn darparu Cymru fwy ffyniannus.
Gan adeiladu ar y Genhadaeth Cydnerthedd ac Ad-drefnu Economaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru yn ddiweddarach yr wythnos hon Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith Gweithredu sy'n nodi'r camau sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu gwydn, gwerth uchel ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol.