Neidio i'r prif gynnwy

Mae man geni’r GIG yn Nhredegar wedi cael ei droi’n ganolfan gymunedol diolch i raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, yn fawr ei chroeso i’r cynllun i adnewyddu Rhif 10, The Circle.  Yr adeilad hanesyddol hwn oedd cartref Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, yr esiampl a gafodd ei defnyddio gan Aneurin Bevan ar gyfer creu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948.

Cafodd dros £142,000 o arian y rhaglen Trawsnewid Trefi, ynghyd â £240,000 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri trwy Ymddiriedolaeth Adfywio’r Maes Glo (CRT) a Menter Treftadaeth Treflun Tredegar, ei neilltuo ar gyfer Rhif 10, The Circle. Bydd y ganolfan yn lle i bobl weithio, dysgu a dathlu hanes Tredegar a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ynddo.

Dywedodd Hannah Blythyn:

Mae’r adeilad hwn yn bwysig iawn i’n hanes ni a bydd ei adnewyddu’n dod â budd i’r gymuned, gan dyfu’n ganolfan iddi gan ddenu rhagor o bobl i ganol y dref.

Wedi’i gwblhau dros dair blynedd yn ôl, caiff yr adeilad ei ddefnyddio fel gofod aml-ddiben mynediad agored ar gyfer dosbarthiadau addysg, hyfforddiant, seminarau, cyfarfodydd a bydd yn cynnwys canolfan dreftadaeth ar gyfer adrodd hanes yr adeilad.

Bydd y llawr cyntaf wedi’i rannu’n bedair swyddfa, i’w rhentu trwy drefniant hyblyg i greu lle gwaith hyblyg ar gyfer busnesau bach a’r trydydd sector.  Caiff y tu allan ei adnewyddu a’i adfer yn llwyr.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Yn yr adeilad bach hwn y datblygwyd y gofal iechyd rydyn ni’n ei adnabod heddiw.  Eleni, yn fwy nag erioed, dylem ddathlu rhan y dref o ran ysbrydoli’r gwasanaeth hynod bwysig hwn.

Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach cynnal trefi a phrif strydoedd ledled Cymru ac mae’n wych gweld sut mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei defnyddio i helpu i gadw’r adeilad hwn yn rhan o hanes Tredegar, er lles i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Dros y 72 o flynyddoedd diwethaf, mae’r GIG wedi bod yno i ni.  A buodd hynny erioed yn fwy gwir na thros y 10 mis diwethaf, wrth i ni i gyd wynebu rhai o ddyddiau duaf Cymru. Ac mae’r GIG wedi bod yno – er o dan bwysau aruthrol – bob cam o’r ffordd. 

“Mae gweddnewidiad yr adeilad hanesyddol hwn yn adlewyrchu taith GIG Cymru dros y saith degawd diwethaf; o egin syniad Aneurin Bevan o Wasanaeth Iechyd i bawb i’r sefydliad o fri rhyngwladol sydd gennym heddiw.

Dywedodd Alun Taylor, Pennaeth Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Adfywio’r Maes Glo:

Prynwyd yr adeilad hwn gan y CRT oherwydd ei bwysigrwydd aruthrol i hanes Tredegar a’r GIG a’i botensial fel Canolfan Dreftadaeth fydd yn adrodd stori dda ac yn helpu i adfywio canol y dref.  Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid, mae cyfleuster ardderchog wedi’i ddatblygu sy’n dangos yr hyn y gellir ei wneud trwy gyd-fuddsoddi ac o gael y gymuned i weithio gyda’i gilydd.

Dywedodd y Cyng Dai Davies, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

Dyma newyddion ffantastig bod un arall o adeiladau hanesyddol Tredegar wedi’i adnewyddu, gan ychwanegu at ein portffolio o adeiladau sydd wedi’u hadfer. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o sut mae’r rhaglen yn cefnogi gwelliannau pwysig er lles cymunedau cyfain.

Bydd Rhif 10 The Circle yn darparu cyfleusterau ychwanegol i’r ardal ac yn hwb i ddatblygiad economaidd y Fwrdeistref trwy hyfforddiant a datblygu sgiliau, gan gadw cyswllt â’r gorffennol trwy’r Ganolfan Dreftadaeth.  Bydd y cyfleuster yn gwneud gwahaniaeth i fywyd lleol, a dymunaf bob llwyddiant iddynt.