Neidio i'r prif gynnwy

Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan 25 Mawrth 2022, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu lesoedd am beidio â thalu rhent. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Medi 2021.

Bydd y mesur hwn yn sicrhau bod landlordiaid safleoedd masnachol perthnasol yn cael eu hatal rhag fforffedu lesoedd safleoedd o’r fath am beidio â thalu rhent tan 25 Mawrth 2022, ond dylai tenantiaid barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd. Mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.

Bydd y cam hwn yn helpu amrywiaeth o sectorau yn ystod cyfnod masnachu sy’n parhau i fod yn heriol.

Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £2.5 biliwn wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru, ac mae mwy o arian yn cyrraedd cwmnïau bob dydd. Mae’r pecyn cymorth busnes sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi Lywodraeth y DU.

Yn ogystal, yn wahanol i Loegr, mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn para drwy gydol 12 mis y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cam hwn yn cael ei gefnogi gan £380 miliwn eleni i helpu er mwyn rhoi amser i ryw 70,000 o fusnesau anadlu.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Drwy gydol pandemig y Coronafeirws, rydym wedi defnyddio pob sbardun posibl i gefnogi busnesau a’u gweithwyr yn ystod cyfnod hynod ofidus.

“Bydd estyn y mesurau hyn i atal busnesau rhag fforffedu eu lesoedd am beidio â thalu rhent, a fydd yn diogelu busnesau rhag cael eu troi allan, yn helpu i ddiogelu swyddi a bywoliaeth i bobl ledled Cymru

“Bydd hefyd yn rhoi'r un lefelau o amddiffyniad yn hyn o beth i fusnesau Cymru â'r rhai yn Lloegr, a bydd yn helpu i adfer busnesau Cymru wrth i'r economi wella.

“Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi cwmnïau o Gymru wrth i ni roi hwb i adferiad cryf yng Nghymru ar ôl y pandemig.”

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ymdrin ar wahân ag ôl-ddyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried pa fesurau pellach sydd angen eu rhoi ar waith, os o gwbl, mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig yng Nghymru ar ôl i'r moratoriwm ddod i ben. Disgwylir y bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried a datblygu eu cynigion ymhellach.