Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei tharged o greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed yn ystod tymor y Senedd hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, fod cyrraedd y garreg filltir yn lwyddiant ardderchog sydd wedi darparu cyfleoedd hanfodol i unigolion a busnesau ledled Cymru.

O'r 100,000 o brentisiaethau a ddechreuwyd, roedd 60% gan fenywod, tra bod 57% yn ddysgwyr 25 oed a throsodd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae'n newyddion gwych ein bod wedi cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

"Mae prentisiaethau yn rhan hanfodol o'n heconomi ac yn rhoi cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu tra'n ennill cyflog.

"Rwy’ wedi cwrdd â llawer o brentisiaid ymroddedig, o bob oed, yn y busnesau gwych sydd gennym yma yng Nghymru ac roedd yn bleser clywed sut maen nhw wedi datblygu sgiliau a galluoedd newydd. Mae cwmnïau hefyd wedi dweud wrtha i bod buddsoddi mewn prentisiaethau wedi bod o fudd i'w busnes a'u gweithlu.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gymhellion newydd sylweddol i gyflogwyr er mwyn helpu i recriwtio prentisiaid. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i fusnesau yng Nghymru hawlio hyd at £3,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed a gyflogir.

Mae'r cymhellion yn rhan o becyn swyddi a sgiliau rhagweithiol gwerth £40 miliwn Llywodraeth Cymru i helpu busnesau a gweithwyr i adfer o effeithiau economaidd y coronafeirws ac ymateb i effeithiau ymadael â'r UE.

Byddant yn helpu i sicrhau cyfleoedd cyflogaeth hanfodol i brentisiaid yng Nghymru, tra'n cefnogi busnesau i gyflogi, hyfforddi a datblygu staff newydd.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Rydyn ni’n byw mewn cyfnod hynod o heriol, ond mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y llywodraeth, busnesau a dysgwyr yn gweithio gyda'i gilydd.

"Rwy'n falch iawn o'r camau rydyn ni wedi'u cymryd wrth gyrraedd y garreg filltir o 100,000.

"Mae wedi galluogi unigolion o bob cwr o Gymru sydd am newid cyfeiriad i wella eu bywydau a dangos yn iawn yr hyn y gallan nhw ei wneud, tra bod busnesau o bob maint wedi elwa o'u cael fel rhan o'u tîm.

"Bydd y cymhellion a gyhoeddais yn ddiweddar yn hanfodol i roi cyfle i hyd yn oed mwy o brentisiaid ddisgleirio.

Dywedodd Owain Williams, cyd-reolwr gyfarwyddwr Williams Homes yn y Bala:

"Mae prentisiaethau wedi bod yn rhan hanfodol o'n strategaeth recriwtio dros y deunaw mlynedd diwethaf, gan ein galluogi i feithrin talent o'r gymuned leol a datblygu gweithlu profiadol a medrus.

"Drwy deilwra hyfforddiant ein prentisiaid i gyd-fynd â'r gwahanol sgiliau sydd eu hangen arnom ni, rydyn ni wedi gallu addasu'n well fel busnes i dueddiadau newydd y diwydiant a pharhau i dyfu fel cwmni.

"Rydyn ni bob amser yn ymdrechu i gynnig swyddi parhaol i'n prentisiaid ar ôl iddyn nhw gwblhau eu prentisiaeth, felly mae hefyd yn ffordd gost-effeithiol i ni recriwtio staff hyfforddedig o gymharu â defnyddio is-gontractwyr.

"Yn ddiweddar rydyn ni wedi cyhoeddi cynlluniau i agor cyfleuster cynhyrchu 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer cartrefi ynni isel yng Nghonwy y flwyddyn nesaf, a fydd yn creu hyd at ddeg prentisiaeth newydd.

"Bydd y cyfleuster hwn hefyd yn gartref i'n Academi Prentisiaid newydd, a fydd yn anelu at adeiladu ar y llwyddiant enfawr rydyn ni eisoes wedi'i gael gyda phrentisiaethau drwy wella sgiliau ein gweithlu a helpu i ddiogelu ein busnes yn y dyfodol gan greu llif o grefftwyr medrus a phrofiadol.

Dywedodd Tim Millard, Prif Beiriannydd a Rheolwr Prentisiaethau Newport Wafer Fab:

"Mae prentisiaethau'n hanfodol i redeg ein busnes ac yn fuddiol i'r unigolyn ac i Wafer Fab fel cwmni.

"Mae gan ein prentisiaid gyfle i ddysgu gan dîm sydd â degawdau o brofiad rhyngddyn nhw, tra gall y busnes deilwra hyfforddiant y prentis i'n hanghenion penodol. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ein prentisiaid i gael eu gyrfa ddelfrydol, gan roi'r hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt.

Mae Leah Clarke yn gwneud Prentisiaeth Technegydd Labordy a Gwyddoniaeth lefel 3 yng Ngholeg Cambria tra'n gweithio i Quay Pharma. Dywedodd:

"Dechreuais weithio tuag at fy arholiadau Safon Uwch Gyfrannol ond doeddwn i ddim yn teimlo mai dyma’r peth iawn i fi. Roeddwn i'n teimlo y gallwn ddysgu cymaint mwy o gael profiadau ymarferol mewn amgylchedd gwaith drwy brentisiaeth nag y gallwn eistedd mewn ystafell ddosbarth.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.