Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno profion cyfresol mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen.
Dan y broses hon, gofynnir i ddisgyblion a staff sydd wedi’u nodi’n gysylltiadau agos naill ai i hunanynysu fel arfer, neu wneud prawf llif unffordd ar ddechrau’r diwrnod ysgol a thrwy gydol y cyfnod hunanynysu.
Byddai’r rheini sy’n cael canlyniad negatif i’r prawf yn parhau i fynychu’r ysgol fel arfer, a byddai gofyn i’r rheini sy’n cael canlyniad positif hunanynysu a threfnu prawf i gadarnhau’r canlyniad.
Bydd ysgolion a cholegau yn cael cefnogaeth, offer a hyfforddiant i wneud hyn. Bydd pob aelod o staff sy’n gweithio mewn ysgolion arbennig yn cael cynnig profion wythnosol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:
“Drwy gydol y pandemig hwn, mae wedi bod yn flaenoriaeth gennym i sicrhau bod dysgwyr yn cael cymaint o addysg â phosibl, a bod y sefyllfa’n amharu cyn lleied â phosibl ar yr addysg honno.
“Bydd y cynlluniau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni’r flaenoriaeth honno.
“Rydym yn cydnabod nad yw wedi bod yn hawdd i ddisgyblion a staff sydd wedi gorfod hunanynysu o ganlyniad i gael eu nodi’n ‘gysylltiad agos’, ac rydym yn cydnabod bod hyn wedi cael effaith ar y dysgu wyneb yn wyneb.
“Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd bod y cyfnod y mae’n rhaid i berson hunanynysu wedi gostwng o 14 diwrnod i 10 diwrnod.
“Yn dilyn trafodaethau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Gell Cyngor Technegol Plant ac Ysgolion, mae’n bleser gennym gadarnhau y byddwn yn cyflwyno rhaglen profion cyfresol mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn y flwyddyn newydd.”
Mae profion llif unffordd yn gallu canfod antigen feirysol COVID-19 ar sampl swab.
Dyfeisiadau llaw yw profion llif unffordd sy’n cael canlyniadau o fewn 20 i 30 munud, ac mae’n bosibl i bobl gynnal y profion hun arnyn nhw eu hunain.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Bydd y gwersi rydym wedi’u dysgu o ddefnyddio profion llif unffordd mewn cynlluniau peilot mewn sefydliadau addysg uwch ledled Cymru, ac ysgolion uwchradd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn helpu i lywio sut y gallwn gyflwyno profion llif unffordd yn llwyddiannus mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn y dyfodol.
“Mae’n hanfodol bod pawb yn deall na all profi ynddo’i hun gael gwared ar y risgiau sy’n gysylltiedig â chael a throsglwyddo COVID-19.
“Mae profion yn helpu i liniaru’r risgiau, ond mae angen gwneud hyn ochr yn ochr â mesurau atal heintiau eraill, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol a mesurau hylendid dwylo priodol.
“Rydym yn ddiolchgar i bawb yn y sector sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y mesurau hyn yn eu lle.”
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r rhaglen brofi i bob ysgol a lleoliad addysg bellach, gan gynnwys staff cynradd a gofal plant.
Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod model ar gael sy’n gweithio, ac sy’n ddiogel, caiff y rhaglen ei rhoi ar waith fesul cam yn ôl y lefel o risg, gan ddechrau gydag ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach.