Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw bod Great Point, y busnes buddsoddi yn y cyfryngau, wedi ymrwymo i gytundeb i brydlesu a rheoli Seren Stiwdios ger Caerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Great Point yn rheoli'r stiwdio am 10 mlynedd, gydag opsiwn i gaffael ac i ehangu'r ganolfan fawr. Mae'r cytundeb a wnaed yr wythnos yma yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Great Point am adeiladu Lionsgate Studios yn Yonkers, Efrog Newydd, yn ogystal ag ail stiwdio yn Buffalo, Efrog Newydd. Mae'r drydedd stiwdio hon yn arwydd o ymrwymiad Great Point i ehangu ei ymdrechion i adeiladu ac i reoli cyfleusterau cynhyrchu o'r radd flaenaf mewn dinasoedd cynhyrchu allweddol, lle mae pwysau cynyddol a chyson ar y gofod sydd ar gael mewn stiwdios ar hyn o bryd.

Adeiladwyd a datblygwyd Seren Stiwdios yng Nghaerdydd, Cymru, gan Lywodraeth Cymru yn 2015. Mae yno bedwar llwyfan mawr sy'n gyfanswm o 74,000 troedfedd sgwâr, yn ogystal â swyddfa gynhyrchu helaeth a gofod ategol. Mae’r lleoliadau cyfagos yn ysblennydd ac yn amrywiol, ac mae tirweddau dinesig, yr arfordir, a chefn gwlad i gyd o fewn cyrraedd hwylus. Ymhlith y cynyrchiadau ffilm a theledu sydd wedi cael eu ffilmio yn Seren Stiwdios y mae The Huntsman, Winter’s War, Sherlock, Show Dogs, The State, A Discovery of Witches, The Crown a Doctor Who.

Mae Great Point, sy'n cael ei redeg gan Jim Reeve a Robert Halmi, yn disgwyl y  bydd yn arfer ei opsiwn i gaffael Seren Stiwdios rywbryd y flwyddyn nesaf, ac mae wedi datblygu cynlluniau i ehangu'r ganolfan a'r safle. Yn ogystal â diweddaru'r gofod yn y stiwdio bresennol, maent yn bwriadu cyflwyno 150,000 troedfedd sgwâr ychwanegol o lwyfannau, swyddfeydd ac ôl-leiniau yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau integredig, gan gynnwys rhentu offer, arlwyo, glanhau a diogelwch. Yn ogystal â chreu swyddi lleol, mae Great Point yn disgwyl y bydd hyn yn denu cynyrchiadau ychwanegol o'r radd flaenaf i Gymru.

Seren Stiwdios fydd y drydedd stiwdio i gael ei rheoli gan Great Point. Mae'r gwaith adeiladu ar ei Lionsgate Studios yn yr Unol Daleithiau yn Yonkers, Efrog Newydd, wedi ailddechrau ar ôl dod i ben am bedwar mis oherwydd coronafeirws (COVID-19), ac mae wrthi ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau gyda nifer o gwmnïau teledu sy'n ystyried ymgymryd â rôl tenant angori ar gyfer Stiwdios Buffalo yn Buffalo, Efrog Newydd.

Dywedodd, Jim Reeve, cyd-sylfaenydd Great Point, sy’n gweithio o Lundain:

"Mae gan ganolfan Seren Stiwdios hanes cyfoethog ac mae'n cynnig y cyfleusterau cynhyrchu gorau yn y rhanbarth. Rydyn ni wrth ein bodd i gael archwilio’i phosibiliadau.

Ychwanegodd Robert Halmi, Cadeirydd a chyd-sylfaenydd Great Point:

"Yn ogystal â'r gofod ffilmio gwych ar y safle, mae dinas Caerdydd a'r wlad o'i hamgylch yn cynnig lleoliadau hardd, amrywiol a chyfareddol ar gyfer ffilmio ar leoliad.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru:

"Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Great Point i Gymru wrth iddo sefydlu ei stiwdio gyntaf yn y DU, a hynny oherwydd ei fod yn cynnig mynediad at rwydwaith byd-eang o gysylltiadau yn y diwydiant ac at gyfleoedd cyffrous. Bydd sut mae Great Point yn mynd ati i gefnogi a datblygu'r gadwyn gyflenwi leol, ynghyd â'i ymrwymiad i addysg a mentora, yn gwella mwy ar y sector creadigol yng Nghymru. Bydd Seren Stiwdios Great Point yn golygu y bydd gan Gymru hyd yn oed fwy o enw da fel lleoliad a ffefrir ar gyfer cynyrchiadau, a bydd hefyd yn cynnig mwy o gyfleoedd gyrfa a chyflogaeth.