Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb mewn perthynas â sefydlu Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cadarnhau.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i gefnogi polisïau Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru ar ôl i Lywodraeth y DU gytuno i ofynion gan Lywodraeth Cymru fod Gweinidogion y DU yn darparu o leiaf £26 miliwn o gyllid cychwynnol, nad oes angen ei ad-dalu, ar gyfer unrhyw Borthladd Rhydd sy’n cael ei sefydlu yng Nghymru, sy’n cyfateb i’r hyn sy’n cael ei gynnig i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno i nifer o ofynion eraill, gan gynnwys gofyniad y bydd y ddwy Lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth gydradd i sefydlu unrhyw Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru.
Hefyd, mae’r ddwy Lywodraeth wedi penderfynu mai dim ond os gellir dangos yn glir y bydd yn gweithredu mewn ffordd sy’n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar waith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan gynnwys ymrwymiad Cymru i fod yn wlad carbon sero-net, y bydd Porthladd Rhydd yn cael ei sefydlu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Yn dilyn cryn drafod rhwng ein Llywodraethau, mae’n bleser gen i ddweud ein bod wedi llwyddo i gytuno â Gweinidogion y DU mewn perthynas â sefydlu Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru. Rydyn ni wedi sicrhau cytundeb sy’n deg i Gymru, ac sy’n parchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi sydd wedi cael eu datganoli.
“Fodd bynnag, rydyn ni wedi’i wneud yn glir i Lywodraeth y DU mai dim ond os gellir dangos, gan ddefnyddio tystiolaeth a dadansoddiadau cadarn, y bydd yn cefnogi ein hagenda gwaith teg ac yn cyflawni manteision cynaliadwy ar gyfer Cymru yn y tymor hir, a gwerth am arian ar gyfer trethdalwyr Cymru, y bydd Porthladd Rhydd yn cael ei sefydlu.
“Rwyf wir yn gobeithio y bydd bodlonrwydd y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar Borthladdoedd Rhydd mewn partneriaeth gydradd yn darparu model cadarnhaol er gyfer cydweithredu rhwng ein Llywodraethau ar fentrau eraill yn y dyfodol.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, Michael Gove:
“Rwyf wrth fy modd mai Cymru yw'r ardal ddiweddaraf i elwa ar Borthladd Rhydd newydd.
“Bydd agenda Porthladdoedd Rhydd uchelgeisiol Llywodraeth y DU yn helpu i sicrhau ffyniant ar gyfer ein cymunedau arfordirol ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ledled y wlad.
“Gyda Llywodraeth Cymru, rwy’n edrych ymlaen at weld cynigion arloesol sy’n dangos manteision amlwg ar gyfer pobl Cymru.”
Yn ogystal mae Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU wedi cytuno ar y canlynol:
- bydd Llywodraeth y DU yn darparu cymhellion treth ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, sy’n cyfateb i gymhellion mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ar gyfer y trethi a gedwir yn ôl sydd wedi cael eu neilltuo i hyrwyddo’r amcanion polisi. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio rhyddhad o drethi lleol a threthi datganoledig (Ardrethi Annomestig a Threth Trafodiadau Tir) i gefnogi’r amcanion polisi.
- bydd y ddwy Lywodraeth yn parhau i fod yn agored i’r posibilrwydd o Borthladd Rhydd aml-safle yng Nghymru. I gydnabod daearyddiaeth economaidd unigryw Cymru ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn fodlon llacio’r terfyn o 45 km ar gyfer ffiniau Porthladd Rhydd aml-safle, os oes achos digon cryf dros wneud hynny.
- bydd y ddwy Lywodraeth yn parhau i fod yn agored i’r posibilrwydd o ganiatáu mwy nag un Porthladd Rhydd yng Nghymru, os cyflwynir achos busnes digon cryf iddynt.
Yn yr un modd â Phorthladdoedd Rhydd yn Lloegr, bydd proses gystadleuol deg ac agored yn cael ei defnyddio i benderfynu lle y dylid gweithredu’r polisi yng Nghymru. Bydd y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i gydlunio’r broses ar gyfer dewis safleoedd i fod yn Borthladd Rhydd, a bydd barn y ddwy yn gydraddol yn yr holl benderfyniadau yn ystod y broses weithredu. Mae hyn yn cynnwys y penderfyniad terfynol ynghylch dewis y safle.
Mae’r ddwy Lywodraeth wedi dechrau’r broses o ddylunio’r prosbectws cynnig ar gyfer y gystadleuaeth, a bydd rhagor o fanylion ynghylch amserlen y camau nesaf yn cael eu cyhoeddi maes o law.