Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Nodi'r gweithgarwch sydd wedi'i wneud i ddarparu cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC) yng Nghymru ac i ystyried yr argymhelliad ar ddiwedd y papur am y potensial i ymestyn FDACs ledled Cymru.

Crynodeb

Diben y papur hwn yw:

  • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru.
  • Nodi diben cynllun peilot FDAC a'i effaith arfaethedig.
  • Ystyried opsiynau ar gyfer ymestyn y peilot ledled Cymru a'i werthuso ymhellach.
  • Ceisio cefnogaeth y Pwyllgor i lansiad ffurfiol FDAC.

Amcan y papur

1. Mae Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC) yn llys teulu amgen ar gyfer achosion gofal plant. Mae wedi'i gynllunio'n benodol i weithio gyda rhieni sy'n cael trafferth gyda phroblemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae'r llys yn ceisio mynd ati i ddatrys problemau, y gall rhieni ddewis eu defnyddio yn hytrach na mynd drwy achosion gofal safonol.

2. Profwyd y peilot FDAC cyntaf yn Llys Achosion Teuluol  Llundain Fewnol rhwng 2008 a 2012. Yn Lloegr, mae FDACs yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan yr Adran Addysg. Ym mis Medi 2021 roedd 14 o dimau FDAC arbenigol yn gwasanaethu 34 o awdurdodau lleol a 21 o lysoedd teulu yn Lloegr.

3. Mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn ffactor pwysig mewn achosion tybiedig o gam-drin plant neu esgeulustod lle mae awdurdod lleol yn mynd â rhieni i'r llys. Yng Nghymru, mae plentyn sy'n derbyn gofal a chymorth gan awdurdod lleol bron ddwywaith yn fwy tebygol o dderbyn gofal os oes gan un neu fwy o'i rieni broblem camddefnyddio sylweddau neu alcohol - nodir bod gan 36% o blant sy'n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru ac sy'n derbyn gofal un neu fwy o rieni sydd â phroblem gyda chamddefnyddio sylweddau neu alcohol (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru papur gwybodaeth Gorffennaf 2019).

4. Mae rhai rhieni, sydd wedi'u cloi mewn cylch o gaethiwed, yn cael eu dwyn yn ôl dro ar ôl tro gerbron y llysoedd lle mae eu plant yn cael eu tynnu oddi arnynt a'u rhoi yng ngofal y wladwriaeth. Mae Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDACs) yn ceisio torri'r cylch hwn, gan roi mynediad i rieni at driniaeth a chymorth dwys, tra bo'r llys yn adolygu eu cynnydd yn rheolaidd. Nod FDAC yw helpu rhieni i ddod yn rhydd rhag defnyddio sylweddau fel y gellir eu hailuno yn ddiogel gyda'u plant, sydd, yn eu tro, yn osgoi cael eu rhoi mewn gofal.

Dull gweithredu FDAC

5. Un o elfennau allweddol dull gweithredu FDAC yw rôl y barnwr a'r berthynas y mae'n ei chreu â'r teulu. Mewn FDAC, yr un barnwr sy'n clywed yr achos drwyddi draw. Nid yw'r dilyniant barnwrol hwn yn rhan o achosion gofal cyffredin, lle mae'n nodweddiadol y bydd rhieni'n cael barnwr gwahanol ar gyfer pob un o'u gwrandawiadau llys.

6. Cyn gynted ag y bydd y trafodion yn dechrau, mae tîm amlddisgyblaethol arbenigol (gan gynnwys gwaith cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, cam-drin domestig ac arbenigedd seicoleg glinigol) yn cynnal asesiad rhianta cychwynnol ac yn cytuno ar gynllun ymyrraeth gyda rhieni a'r rhwydwaith proffesiynol. Pan gaiff y cynllun ei gadarnhau gan y llys, mae'r rhieni'n dechrau Treial ar gyfer Newid, gyda chefnogaeth y tîm arbenigol a chyda chyfarfodydd rheolaidd gyda'r barnwr, sy'n ysgogi'r rhieni ac yn adolygu eu cynnydd yn ogystal â dyfarnu yn yr achos.

7. Mae tystiolaeth addawol o werthusiadau cynnar bod model FDAC yn cael effaith gadarnhaol ar ailuno teuluoedd, rhoi'r gorau i gamddefnyddio sylweddau, osgoi achosion llys mynych ar gyfer yr un plentyn neu blant dilynol, a lleihau'r angen am ofal.

  • Roedd gan deuluoedd a oedd wedi mynd drwy'r FDAC gyfraddau uwch o roi'r gorau i gamddefnyddio sylweddau na'r rhai a fu drwy achosion gofal cyffredin: 40% o famau FDAC o'i gymharu â 25% mewn sefyllfa gyfatebol, a 25% o dadau FDAC o'i gymharu â 5% o dadau mewn sefyllfa gyfatebol.
  • Roedd gan deuluoedd FDAC gyfraddau uwch o ailuno teuluoedd hefyd: Rhoddodd 35% o famau FDAC y gorau i gamddefnyddio ac fe gawsant eu hailuno â'u plant, o'i gymharu â 19% o famau a oedd wedi bod drwy achosion gofal cyffredin (Adroddiad Nuffield Foundation 2014).

Datblygu cynllun peilot FDAC yng Nghymru

8. Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru' a argymhellodd y dylid sefydlu Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol (Argymhelliad 35). Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i roi'r argymhelliad hwn ar waith, a chynigiodd sefydlu Rhaglen FDAC beilot i werthuso dull gweithredu FDAC, gyda'r bwriad o ddefnyddio'r gwersi o'r peilot i gefnogi ymestyn model FDAC i ardaloedd eraill.

9. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i ddatblygu cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol (FDAC) yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2020, dyrannwyd cyllid i'r Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder (CJI) i helpu i ddatblygu'r peilot. Mae CJI yn brofiadol ac wedi bod yn llwyddiannus wrth ddarparu cymorth gweithredol i sefydlu FDACs yn Lloegr.

10. Datblygodd CJI fodel peilot ar gyfer Cymru mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Yn dilyn proses Mynegi Diddordeb gystadleuol, dyfarnwyd y peilot i Fwrdd Cyfiawnder Teuluol Lleol De-ddwyrain Cymru gyda chyllideb rhaglen o £450,000, yn cwmpasu hyd y rhaglen hyd at fis Gorffennaf 2023. Bydd y gwasanaeth ar gael i deuluoedd a atgyfeirir gan awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg, gan weithredu o Lys Teuluol Caerdydd. Rhagwelir y bydd y llys yn clywed 30 o achosion y flwyddyn.

11. Mae CJI wedi cydweithio'n agos â phartneriaid gan gynnwys byrddau iechyd, Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Plant, prif farnwr cynllun peilot FDAC (y Barnwr Sian Parry, Caerdydd), yr awdurdodau lleol, Cafcass Cymru a'r arweinydd comisiynu camddefnyddio sylweddau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddatblygu cynllun prosiect ar gyfer y peilot. O'r cychwyn cyntaf, sefydlodd awdurdodau lleol Caerdydd a'r Fro grŵp llywio i gefnogi gweithredu cynllun peilot FDAC a grŵp gweithredol i sicrhau bod y gwaith gweithredu'n cael ei gyflawni'n gyson ledled Caerdydd a'r Fro.

12. Cytunwyd y bydd y gwasanaeth FDAC yn eistedd ochr yn ochr â Thîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd a'r Fro (IFST). Mae'r gwasanaeth IFST yn ddarpariaeth sy'n unigryw i Gymru sy'n ceisio cefnogi anghenion teuluoedd sy'n agored i niwed mewn argyfwng lle mae camddefnyddio sylweddau gan rieni yn cael effaith ar les plant. Bydd strwythur staffio tîm amlddisgyblaethol peilot FDAC yn cynnwys rheolwr tîm, gweithiwr cymdeithasol sydd ag arbenigedd amddiffyn a diogelu plant, gweithiwr camddefnyddio sylweddau, gweithiwr iechyd meddwl, seicolegydd a gweithiwr cymorth busnes.

13. Mae CJI hefyd wedi gweithio gyda'r comisiynydd gwasanaethau triniaeth, staff llys a chyfreithwyr rhieni a phlant a chynrychiolwyr sy'n fargyfreithwyr i archwilio sut y gall teuluoedd sy'n cael eu hatgyfeirio at FDAC elwa ar fynediad at wasanaethau sydd ar gael yn ardaloedd y gwahanol awdurdodau lleol a'r gweithdrefnau y mae eu hangen i alluogi hyn i ddigwydd.

14. Bu cryn ymgysylltu â'r llysoedd ac mae'r barnwr arweiniol wedi gweithio gyda staff y llys i nodi diwrnod cyson ar gyfer y llys FDAC (bob dydd Gwener). Mae ystafell llys ddynodedig, man aros, ac ystafell i'r tîm gael ei leoli yn y llys i gynnal profion cyffuriau wedi'u sicrhau hefyd.

15. Rhannwyd dogfennau allweddol a gorchmynion drafft â barnwyr ac mae cysylltiadau wedi'u gwneud â barnwyr a staff eraill mewn ardaloedd FDAC sefydledig yn Lloegr. Mae Llywydd yr Is-adran Deulu wedi cefnogi cynllun peilot FDAC yng Nghymru yn gyhoeddus. Mae cysylltiadau hefyd wedi'u gwneud â'r arweinydd camddefnyddio sylweddau yn Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i archwilio sut y gallant gefnogi'r peilot a'i gyflwyno'n ehangach.

16. Mae awdurdod lleol Caerdydd wedi mynd ati i gasglu data sylfaenol i gefnogi dealltwriaeth o'r darlun lleol sy'n ymwneud ag achosion gofal yn 2020/2021. Dangosodd y data fod 55% o achosion gofal yn cynnwys camddefnyddio sylweddau gan rieni.

17. Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer y cynllun peilot bron ar ben a bwriedir i gynllun peilot FDAC ddechrau gweithredu a chlywed ei achosion cyntaf ym mis Tachwedd. Mae dyddiad lansio ffurfiol ar gyfer y cynllun peilot wrthi'n cael ei drefnu.

Gwerthuso ac opsiynau ar gyfer cyflwyno'r cynllun peilot ymhellach

18. Ym mis Mawrth 2021, drwy gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, caffaelodd CJI Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd i werthuso'r cynllun peilot. Os bernir bod y peilot yn llwyddiannus yna gellir defnyddio'r  gwersi a ddysgir i gefnogi ymestyn y model FDAC i ardaloedd eraill yng Nghymru. Bydd y gwerthusiad yn ystyried a yw cynllun peilot FDAC yn cael ei weithredu yn ôl y bwriad ac a yw'n gweithredu mewn ffordd sy'n ei alluogi i gael ei raddio'n hawdd.

19. Bydd y gwerthusiad yn anelu at gefnogi'r gwaith o ddarparu FDAC yn effeithiol yng Nghymru, ac yn hwyluso gwerthusiad trylwyr ar raddfa fawr, drwy nodi elfennau allweddol ac unrhyw wahaniaethau o ran darparu FDAC yn flaenorol. Mae astudiaeth hydredol i ddilyn teuluoedd drwy'r daith yn cael ei thrafod. Os bydd y gwerthusiad yn cadarnhau prawf o gysyniad, gofynnir i'r Pwyllgor gefnogi mewn egwyddor ymestyn y broses o gyflwyno FDACs ledled Cymru, yn amodol ar gyflwyno cyngor pellach.

20. Comisiynodd y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder ddadansoddiad o gost a budd FDAC yn ddiweddar o'i gymharu ag achosion gofal nad ydynt yn rhai FDAC sy'n cynnwys camddefnyddio sylweddau gan rieni. Nododd yr astudiaeth fod achosion gofal yn un o'r ymyriadau mwyaf difrifol (a drud) y gall y wladwriaeth ymgymryd â hwy ym mywyd teulu, a daeth i'r casgliad bod FDAC yn ffordd fwy effeithiol a theg o glywed achosion gofal lle y mae camddefnyddio sylweddau gan rieni yn y cwestiwn.

21. Mae senario achos gorau'r adroddiad yn awgrymu, er mwyn i'r buddsoddiad mewn un tîm FDAC glywed 30 o achosion (sy'n cynnwys 42 o blant), fod FDAC yn talu ei fuddsoddiad gwreiddiol o £540,000 yn ôl ac yn cynhyrchu arbedion net o dros £500,000 o fewn yr achosion (h.y. o fewn 6-9 mis), ac yn cynhyrchu £700,000 yn ychwanegol ar ôl achosion (ar lefel awdurdod lleol, gan gynnwys arbedion a wneir yn sgil atal achosion rheolaidd), gan arwain at arbedion net o £1,200,000 (Rolling-out Family Drug and Alcohol Courts (FDAC): The business case, Centre for Justice Innovation, Medi 2021). 

22. Er mwyn gwneud FDAC yn gynaliadwy, mae CJI yn awgrymu bod ar awdurdodau lleol angen cymhorthdal ymlaen llaw i greu FDACs ac mae'n argymell rhaniad cost o 50/50 rhwng y Llywodraeth, yr awdurdodau lleol a phartneriaid eraill gan gynnwys iechyd. Yn y gorffennol, mae FDAC wedi tyfu pan fydd llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol yn rhannu'r gost ac yn cynnal cynaliadwyedd. Byddai Llywodraeth y DU hefyd yn gwneud arbedion tymor hwy yn sgil cyflwyno FDACs os ydynt yn cyflawni'r manteision a ragwelir, felly bydd angen i'r Pwyllgor hefyd ystyried a ddylai sicrhau cyfraniadau gan Lywodraeth y DU fod yn un o amodau cyflwyno FDACs yn ehangach.

23. Sefydlwyd Llys Cyffuriau arbenigol yng Nghaerdydd yn 2009 yn flaenorol, er mai cadw troseddwyr allan o'r system cyfiawnder troseddol yn hytrach na thargedu rhieni ac atal teuluoedd rhag chwalu oedd y nod. Mae gwersi o'r profiad hwnnw hefyd yn rhan o'r gwaith o ddylunio a gwerthuso'r peilot newydd.

Effaith

24. Mae lleihau nifer y plant mewn gofal a helpu plant i aros yng ngofal eu teuluoedd yn flaenoriaethau allweddol i Lywodraeth Cymru yn y Tymor Hwn o'r Senedd. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau a fydd yn helpu i lywio gwasanaethau cymdeithasol plant, lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal a lleddfu'r pwysau o fewn y system. Mae'r gwaith o gyflawni ein dull gweithredu o ran FDAC yn cyd-fynd â'n gweledigaeth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau plant drwy ddiwygio radical, gan ganolbwyntio ar ddulliau adferol ac arferion sy'n llai gelyniaethus i risg.

25. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gryf i gefnogi teuluoedd sy'n cael problemau camddefnyddio sylweddau. Mae ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ac yn arbennig yr angen i Fyrddau Cynllunio Ardal weithio gyda phartneriaid sy'n cefnogi teuluoedd, gan gynnwys y rhai sydd ar ffiniau gofal.

26. Mae'r dystiolaeth gan FDACs hyd yn hyn yn dangos eu bod yn llwyddo i gyflawni eu nodau a byddant yn sicrhau arbedion cost ac arbedion effeithlonrwydd o fewn y system llysoedd teulu ac ar gyfer gwasanaethau plant awdurdodau lleol, gan ryddhau adnoddau i gefnogi gwaith ataliol cynharach gyda theuluoedd a allai fod yn cael anawsterau.

27. Mae'r gwaith i gyflwyno'r peilot FDAC yn cyd-fynd â'n gwaith i gyflawni argymhellion y Gweithgor Cyfraith Gyhoeddus, gan helpu i ddargyfeirio plant yn ddiogel rhag dod yn destun achosion cyfraith gyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi Byrddau Cyfiawnder Teuluol Lleol a darparu rhaglen hyfforddi cyfraith gyhoeddus a chanllawiau arferion gorau i gefnogi gwell gweithdrefnau rheoli achosion.

28. Er mwyn cynorthwyo trafodaethau am gynaliadwyedd, mae'r awdurdodau lleol yn cael eu hannog i ystyried FDAC fel 'gwneud rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei wneud mewn ffordd wahanol' yn hytrach na dull sy'n 'ychwanegol' at ddyletswyddau statudol presennol. Drwy gyflwyno argymhelliad yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, bydd hefyd yn helpu i ddangos tystiolaeth o'r achos dros ddatganoli cyfiawnder yn ehangach.

Cyfathrebu a chyhoeddi

29. Mae dyddiad lansio ffurfiol ar gyfer y peilot yn cael ei drefnu gan y Ganolfan Arloesi ym maes Cyfiawnder tua diwedd mis Tachwedd. Bydd swyddogion yn ceisio sicrhau bod y Gweinidogion yn cael y cyfle i fynychu. Cynigir bod diweddariad pellach ar gyflawni'r cynllun peilot a chanlyniadau cynnar yn cael ei ddarparu i'r Pwyllgor ymhen blwyddyn. Dylid cyhoeddi’r papur hwn chwe wythnos ar ôl y cyfarfod perthnasol.

Argymhelliad

Gofynnir i'r Cabinet nodi cynnydd y cynllun peilot FDAC ac, yn amodol ar werthusiad cadarnhaol o'r peilot, gytuno bod swyddogion yn ymchwilio i drefniadau ar gyfer cyflwyno FDACs yn ehangach ledled Cymru.

Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol 
Medi 2021 

Atodiad A: Materion statudol, cyllid, cyfreithiol a llywodraethu

Gofynion statudol

1. Mae angen datblygu cynllun peilot FDAC i brofi dulliau gweithredu amgen ar gyfer plant a theuluoedd lle mae camddefnyddio sylweddau yn gyffredin ac sy'n destun achosion gofal.  Mae'r FDAC yn gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol, â'r egwyddor datblygu cynaliadwy o fabwysiadu dull gweithredu hirdymor. Bydd cynllun peilot FDAC yn hyrwyddo gwell canlyniadau i'r plant a'r teuluoedd ac mae'n cyd-fynd â gofynion y Ddeddf i gyrff cyhoeddus arddel dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn seiliedig ar y nodau llesiant.

2. Mae'r Gymraeg, hawliau plant a chydraddoldeb a hawliau dynol yn faterion sydd i gyd yn berthnasol i gyflawni cynllun peilot FDAC a datblygu unrhyw raglen gyflwyno yn y dyfodol. Bydd y rhain yn parhau i gael eu hystyried wrth ddatblygu'r rhaglen FDAC.

Gofynion cyllid a goblygiadau llywodraethiant

3. Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol newydd yn deillio o'r papur hwn, gan ei fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Is-bwyllgor y Cabinet am y cynnydd o ran cyflawni'r peilot a'i ganlyniadau arfaethedig. Er hynny, pan fydd y peilot wedi'i gwblhau a'i weithgarwch yn cael ei werthuso'n ffurfiol, bydd unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch ymestyn y broses o gyflwyno'r rhaglen yn ddarostyngedig i gyngor a phenderfyniadau'r Gweinidogion.

4. Mae'r papur Is-bwyllgor y Cabinet hwn wedi'i glirio gan Dîm Cyllid HSS NP/2021/8143, Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (BGB0132/6) a Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) - 39/2021.

Ymchwil a / neu ystadegau

5. Mae'r ymchwil a nodwyd yn y papur hwn yn adlewyrchiad o'r gweithgarwch gwerthuso mawr a wnaed i gefnogi'r dull hwn ac a ddefnyddiwyd i lywio'r gwaith o ddatblygu cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru.

Gweithio cydgysylltiedig

  • Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
  • Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Polisi Cyfiawnder, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Trysorlys Cymru