Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, wrth i’r achosion o heintiadau COVID-19 newydd barhau i ostwng, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r rheol bresennol yn darparu fel bod modd i hyd at chwe unigolyn (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr) o ddwy aelwyd ar y mwyaf gyfarfod yn yr awyr agored. O ddydd Sadwrn ymlaen, bydd y rheolau newydd yn caniatáu i chwe unigolyn (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr) gyfarfod yn yr awyr agored.

Nid yw’r rheolau ar gyfer cyfarfod dan do wedi newid.

Dylai unigolion gadw pellter cymdeithasol rhyngddynt ag eraill o’r tu allan i'w haelwyd neu swigen gefnogaeth wrth gyfarfod y tu allan.

Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi cadarnhau y caniateir i letygarwch awyr agored ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill 2021.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

Mae'r cyd-destun o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i fod yn ffafriol, gydag achosion yn gostwng ac mae ein rhaglen frechu yn dal i fynd o nerth i nerth. Gan fod llai o risg yn dal i fod yn gysylltiedig o hyd â chwrdd yn yr awyr agored o’i gymharu â chwrdd dan do, rydyn ni’n gallu cyflwyno newidiadau i ganiatáu i unrhyw chwe unigolyn gwrdd yn yr awyr agored.

Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl ifanc yn arbennig i gwrdd â’u ffrindiau yn yr awyr agored. Nid oes amheuaeth y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar lesiant unigolion.

Rydw i’n falch hefyd o gadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen.

Bydd y newidiadau hyn yn helpu'r sector lletygarwch i adfer ar ôl deuddeg mis anodd.

Diolch i ymdrechion parhaus pobl ym mhob cwr o Gymru rydyn ni’n gallu cyflwyno'r newid hwn. Gyda'n gilydd, byddwn ni’n parhau i ddiogelu Cymru.

Ddydd Gwener (23 Ebrill 2021), bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer llacio rheolau COVID ymhellach a bydd y rhain yn dod i rym ddydd Llun 26 Ebrill 2021.