Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pobl sydd wedi cael prawf COVID-19 positif yn cael rhoi’r gorau i hunanynysu ar ôl pum diwrnod llawn os ydynt wedi cael dau brawf llif unffordd negatif. Dyna yw’r cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i’r ddau brawf llif unffordd negatif gael eu cymryd ar ddau ddiwrnod yn olynol, ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech o’r cyfnod hunanynysu.

Gwneir y newidiadau hyn ar ôl archwiliad trylwyr o’r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a bydd Cymru’n ymuno â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig sydd eisoes wedi rhoi’r newid hwn ar waith.

Daw’r newid hwn i rym o 28 Ionawr, pan ddisgwylir i Gymru gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero.

Bydd cyfnod hunanynysu byrrach yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a busnesau drwy leihau’r pwysau ar y gweithlu o ganlyniad i absenoldebau staff cysylltiedig â COVID.

Bydd y cymorth ariannol drwy’r Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 i gydnabod y cyfnod hunanynysu byrrach. Bydd pobl sydd angen cymorth gyda chasglu hanfodion fel nwyddau o’r siop a meddyginiaeth o’r fferyllfa yn gallu cael cymorth drwy eu hawdurdod lleol a sefydliadau gwirfoddol. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:

“Hunanynysu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y feirws rhag lledaenu a tharfu ar ei drosglwyddiad. Ond gall hunanynysu am gyfnodau hir gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl a gall fod yn niweidiol i’n gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ehangach.

“Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn ofalus, rydym yn credu y bydd profi ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech, ynghyd â hunanynysu am bum diwrnod llawn yn cael yr un effaith amddiffynnol â chyfnod hunanynysu o 10 diwrnod.

“Ond mae’n bwysig iawn bod pawb yn hunanynysu ac yn defnyddio profion llif unffordd fel y cynghorir i sicrhau eu bod yn diogelu eraill rhag y risg o haint.

“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn rhagorol yng Nghymru drwy gydol y pandemig ac fe hoffem ddiolch i bawb am weithio gyda ni i ddiogelu Cymru.

“Mae’r pigiadau atgyfnerthu wedi lleihau’r tebygolrwydd o achosion difrifol o’r feirws a’r angen i dderbyn unigolion i’r ysbyty felly rwy’n annog unrhyw un sydd heb gael eu brechu i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.”

Os yw rhywun yn profi’n bositif am COVID-19, neu os ydynt yn hunanynysu fel achos positif ar hyn o bryd, rhaid iddynt hunanynysu am bum diwrnod llawn a chymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod pump a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach ar ddiwrnod chwech.

Os yw’r ddau ganlyniad yn negatif, mae’n debygol nad ydynt yn heintus ac fe gânt roi’r gorau i hunanynysu.

Ond bydd rhaid i unrhyw un sy’n profi’n bositif ar ddiwrnod pump neu ar ddiwrnod chwech barhau i hunanynysu hyd nes y byddant wedi cael dau brawf negatif o fewn 24 awr, neu hunanynysu tan ddiwrnod 10, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Mae’r newid hwn yn adlewyrchu’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd canllawiau ar hunanynysu ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn meysydd mwy sensitif fel iechyd a gofal yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.