Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Hydref 2020.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Cawsom gyfanswm o 3,581 o ymatebion. Roedd y mwyafrif llethol o blaid gwahardd y cynhyrchion plastig untro a awgrymwyd.
Yn sgil yr ymgynghoriad hwn, cyflwynir y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Plastigau Untro) (Cymru) yn Senedd Cymru.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 624 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn ar ein cynigion i wahardd naw cynnyrch plastig untro.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod y cynnig yw helpu i fynd i'r afael â'r difrod amgylcheddol a achosir gan eu gwarediad amhriodol.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 915 KB
Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 697 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r ffurflen ymateb hawdd ei ddeall ar gael yma.
Help a chymorth
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch EQR@llyw.cymru