Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i’r cyfyngiadau coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhagor o’r cyfyngiadau yn cael eu llacio yn gynt, sef ar 3 Mai yn hytrach nag 17 Mai – gan gynnwys ailddechrau gweithgareddau o dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant, gweithgareddau o dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion, megis dosbarthiadau ymarfer corff, ac ailagor canolfannau cymunedol.

Golyga hyn y bydd Cymru wedi symud i Lefel Rhybudd 3 yn llwyr erbyn dydd Llun 3 Mai.

O ddydd Sadwrn 24 Ebrill, bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd yn cael cwrdd yn yr awyr agored, heb gynnwys plant o dan 11 mlwydd oed neu ofalwyr o’r aelwydydd hynny.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau’r cyfyngiadau a fydd yn cael eu llacio ddydd Llun 26 Ebrill. Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys pyllau nofio awyr agored, ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor, ynghyd â lletygarwch awyr agored, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai.

Bydd modd cynnal gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl a chaiff derbyniadau priodasau ailddechrau yn yr awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl.

Cymru sydd â’r cyfraddau coronafeirws isaf o blith gwledydd y DU. Mae'r rhaglen frechu lwyddiannus yn parhau gyda chyfran uwch o bobl yn cael eu brechu yng Nghymru na chenhedloedd eraill y DU am y dos cyntaf a'r ail ddos.

Newidiadau o ddydd Llun 3 Mai ymlaen:

  • Bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor
  • Bydd modd i bobl ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto gydag un aelwyd arall
  • Bydd camau llacio a oedd wedi’u cynllunio ar gyfer 17 Mai yn cael eu gweithredu yn gynt, sef ar 3 Mai, gan gynnwys:
  • Ailddechrau gweithgareddau o dan do ac o dan oruchwyliaeth ar gyfer plant
  • Gweithgareddau o dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 15 o oedolion (megis dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio)
  • Ailagor canolfannau cymunedol

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r holl aberth yr ydyn ni i gyd wedi’i wneud yn parhau i wneud gwahaniaeth. Drwy weithio gyda’n gilydd a chadw at y rheolau, ynghyd â’n rhaglen frechu, rydyn ni’n parhau i weld gwelliant. Mae cyfraddau’r feirws yn dal i ostwng ac mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella.

“Diolch i’r ymdrechion hyn, gallwn gadarnhau’r cyfyngiadau a fydd yn cael eu llacio ar 26 Ebrill, ac ar gyfer dechrau mis Mai gallwn ni eto weithredu rhai o’n cynlluniau yn gynt. Fodd bynnag, er mwyn bod mewn sefyllfa i gymryd y camau hyn, rhaid inni i gyd barhau i weithio gyda’n gilydd i ddiogelu Cymru.

“Yn yr adolygiad tair wythnos diwethaf, cyflwynais olwg ymlaen o sut allai’r cyfyngiadau barhau i gael eu llacio yn yr wythnosau nesaf, os bydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau’n sefydlog.

“Cyfrifoldeb Llywodraeth newydd Cymru fydd cadarnhau’r trefniadau hynny yn yr adolygiad tair wythnos nesaf, a gynhelir ar 13 Mai – wythnos ar ôl yr etholiad. Fy asesiad i yw y bydd y sector lletygarwch – bariau, tafarndai, bwytai a chaffis – yn cael agor o dan do o 17 Mai ymlaen, ynghyd â phob llety arall i dwristiaid, ac adloniant ac atyniadau o dan do.”

Dim ond os bydd y sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol y bydd unrhyw gamau pellach i lacio’r cyfyngiadau yn cael eu cymryd.