Bydd Hannah Blythyn yn lansio Cronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, sydd werth £6.5m, gydag ymweliad â Klӧckner Pentaplast, cwmni byd-eang a blaenllaw sy’n arbenigo ym maes defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu yn eu cynhyrchion ac sydd wedi ymrwymo i wneud y defnydd mwyaf posibl o ddeunyddiau cynaliadwy.
Bydd y Gronfa Economi Gylchol yn helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu, sef 70% erbyn 2025 a 100% erbyn 2050, fel y’u nodir yn strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’.
Mae economi gylchol yn parhau i ddefnyddio adnoddau mor hir â phosib, drwy adfer ac adfywio deunyddiau yn hytrach na’u gwaredu.
Mae creu economi gylchol ar gyfer gwastraff plastig yn gyfle mawr i economi Cymru, yn ogystal â bod yn fuddiol i’r amgylchedd, wrth gwrs. Bydd yn helpu i greu a diogelu swyddi yng Nghymru, drwy wneud ein cwmnïau gweithgynhyrchu’n fwy effeithlon a chadarn a chan gryfhau cadwyni cyflenwi lleol.
Bydd y gronfa, gwerth £6.5m, yn cynnig grantiau i fusnesau o unrhyw faint sydd eisiau cyllid buddsoddi cyfalaf i gynyddu eu defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn eu cynhyrchion, eu cydrannau neu eu pecynnau. WRAP Cymru fydd yn gweinyddu’r gronfa ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Hannah Blythyn:
“Mae Cymru ar daith tuag at ddod yn economi gylchol. Mae hyn yn golygu gwneud mwy o ddefnydd o ddeunyddiau ac ailgylchu gymaint o wastraff a phosib. Mae Klӧckner Pentaplast yn enghraifft o sut gellid defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu i greu cynnyrch llwyddiannus, gan wneud lles i’r amgylchedd a hybu’r galw am ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
“Bydd ein cronfa’n helpu gyda rhai o’r costau sy’n gysylltiedig â buddsoddi mewn offer a seilwaith newydd er mwyn cynyddu’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae gan hyn y potensial i arbed arian yn ogystal â helpu busnesau i leihau eu hôl troed carbon. Mae cynyddu’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn gyfle economaidd - mae hefyd yn helpu i greu a diogelu swyddi drwy wneud cwmnïau gweithgynhyrchu Cymru yn fwy effeithlon o ran adnoddau ac yn fwy cadarn o ran eu cyflenwad o adnoddau crai.
“Dw i’n annog gweithgynhyrchwyr ledled Cymru i edrych ar wefan WRAP Cymru am fanylion y Gronfa Economi Gylchol ac ystyried pa gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
“Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu mwy nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig – dydyn ni ddim yn bell ofnadwy o fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu. Dw i am inni fynd ymhellach fyth, a datblygu’n economi wirioneddol gylchol.
Dywedodd Neil Hancock o Klӧckner Pentaplast:
“Fel gweithgynhyrchwr pecynnau plastig ar gyfer bwyd ffres, mae cynaliadwyedd yn bwysig inni ac rydym yn frwd iawn i gydweithio pan fo cyfle. Drwy ein hymrwymiad plastig, rydym am gynyddu cyfraddau ailgylchu a defnyddio mwy o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn ein pecynnau i greu economi gylchol a pharhau i gadw bwyd yn ffres ac yn ddiogel.
“Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid, manwerthwyr, cyflenwyr, ailgylchwyr a llywodraethau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol i wella’r system ailgylchu a helpu i gynnwys dinasyddion a chymunedau yn y gwaith o waredu plastig, sy’n gallu bod yn ddeunydd crai gwerthfawr i gynhyrchu pob math o bethau.