Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymgynghoriad cynllunio yn agor heddiw ar leoliad y safle rheoli ffiniau ar gyfer porthladd Caergybi. Bwriedir lleoli’r safle ar Lain 9, Parc Cybi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl diwedd cyfnod pontio'r UE mae angen nifer o wahanol wiriadau yn ofynnol ar gyfer nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU.  Golyga hyn fod yn rhaid sefydlu safleoedd rheoli ffiniau .

Yng Nghaergybi bydd angen cynnal archwiliadau ar nwyddau fel anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid sy'n dod i Gymru o Weriniaeth Iwerddon. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r gwiriadau hyn a byddant ar waith er mwyn sicrhau nad yw nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU yn peri risg i iechyd y cyhoedd, nac i ledaeniad clefydau anifeiliaid neu blanhigion.

Anfonwyd gwybodaeth at drigolion o fewn 1km i Barc Cybi am y safle rheoli ffiniau arfaethedig fel rhan o'r ymgynghoriad.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Yn dilyn y newidiadau sylweddol i'n perthynas â'r UE mae'n ofynnol i ni sefydlu safle rheoli ffiniau ar gyfer porthladd Caergybi. 

"Er bod yr amserlen wedi'i diwygio gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno gwiriadau, rydym yn parhau i drafod gyda nhw er mwyn sicrhau bod digon o amser yn cael ei roi i addasu i'r amgylchiadau newydd mewn modd effeithiol, gan leihau unrhyw darfu ar ein busnesau yma yng Nghymru."

Mae'r ymgynghoriad cynllunio o dan Orchymyn Datblygu Arbennig sy'n drefniant wrth gefn i sicrhau y gall y prosiect fynd rhagddo'n gyflym ac arbed amser yn y broses gynllunio pe bai hyn yn dod yn ffactor hollbwysig.