Gofynnir i ofalwyr di-dâl, sydd heb ei gofrestru fel gofalwr di-dâl gyda'u meddyg teulu, i ddod ymlaen drwy lenwi ffurflen hunanatgyfeirio newydd ar-lein er mwyn cael eu brechlyn rhag COVID-19 fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething, wedi cyhoeddi canllawiau i nodi pwy sy’n gymwys i gael y brechlyn fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6. Yn y canllawiau, gofalwyr di-dâl cymwys yw’r rhai sy’n unig ofalwr neu’n brif ofalwr i rywun a fyddai mewn mwy o berygl pe byddent yn dal coronafeirws.
Mae’r bobl sy’n agored i niwed yn glinigol yn sgil COVID-19 yn cynnwys plant â niwro-anableddau difrifol, unigolion a nodwyd fel rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, oedolion sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac unigolion sydd angen gofal oherwydd eu bod mewn oed.
Bydd y ffurflen ar-lein ar gael ar wefannau’r byrddau iechyd lleol yn y diwrnodau nesaf, i’w defnyddio o ddydd Llun 8 Mawrth. Ceir rhagor o fanylion yma https://llyw.cymru/cael-brechlyn-covid-19-fel-gofalwr-di-dal
Dylai pobl lenwi ffurflen ar-lein gyda’r bwrdd iechyd yn lle maent yn byw, neu gyda’r bwrdd iechyd lle mae eu meddyg teulu.
Pan fydd y ffurflen wedi’i chyflwyno, bydd y bwrdd iechyd yn trefnu i uwchlwytho’r wybodaeth i System Imiwneiddio Cymru, a bydd apwyntiad yn cael ei drefnu.
Bydd pawb yng ngrwpiau 5-9 yn cael gwahoddiad i gael y brechlyn erbyn canol mis Ebrill. Dylai unigolion sydd eisoes wedi’u cofrestru fel gofalwr di-dâl gyda’u meddyg teulu gael gwahoddiad yn yr wythnosau nesaf, ac nid oes angen iddynt lenwi’r ffurflen ar-lein.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Mae’r pandemig wedi cyflwyno rhagor o heriau i ofalwyr di-dâl ar hyd a lled y wlad, a hoffwn ddiolch iddynt am bopeth y maent yn ei wneud.
Dylai’r canllawiau a gyhoeddwyd roi mwy o eglurder i’r bobl yng ngrŵp blaenoriaeth chwech, a hoffwn annog unrhyw un sy’n gymwys a heb gofrestru gyda’u meddyg teulu i lenwi’r ffurflen gais ar-lein. Rwy’n eich annog i dderbyn eich gwahoddiad i gael y brechlyn, i’ch diogelu chi a’r rheini yr ydych yn gofalu amdanynt.
Hoffwn ddiolch i’r sefydliadau gofal cenedlaethol sydd wedi ein cynorthwyo gyda’n canllawiau a’r ffurflen hunanatgyfeirio a’n helpu i sicrhau’r broses gywir ar gyfer ein gofalwyr di-dâl amhrisiadwy.
Dywedodd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru:
Ar ôl treulio cyfnod o’u bywydau yn gofalu am bobl agored i niwed, gwyddom y bydd llawer o ofalwyr di-dâl yn teimlo rhyddhad o gael gwahoddiad i gael y brechlyn. Mae Gofalwyr Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio’r broses hunanatgyfeirio a hoffem annog gofalwyr di-dâl cymwys i lenwi’r ffurflen hunanatgyfeirio ar-lein cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
Gwyddom fod gofalwyr di-dâl wedi wynebu sawl her ymarferol, emosiynol ac ariannol yn ystod y pandemig. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar adborth gan ofalwyr a gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wrth greu’r ffurflen hon. Hoffem annog gofalwyr yng Ngrŵp Blaenoriaeth chwech i wirio’r ffurflen a chael y brechlyn os ydynt yn gymwys.
Dywedodd Kate Young, Cyfarwyddwr, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan,
Bydd gofalwyr di-dâl ar draws Cymru yn croesawu’r esboniad ychwanegol hwn. Rydym yn falch o weld bod adborth gan unigolion sy’n gofalu’n ddi-dâl am aelodau o’u teulu, ac yn bryderus a oeddent yn gymwys i gael y brechlyn, wedi arwain at greu’r ffurflen hon fel adnodd ychwanegol. Rydym yn annog unigolion sy’n gofalu’n ddi-dâl am aelodau o’u teulu i edrych ar y ffurflen a’i llenwi os ydynt yn teimlo eu bod yn gymwys ac na fyddant yn cael y brechlyn yn gynt heb gofrestru.