Neidio i'r prif gynnwy

Sut i drefnu brechlyn COVID-19 os ydych yn ofalwr ar gyfer person sy’n agored i niwed yn glinigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Os ydych dros 16 oed, ac chi yw'r unig ofalwr neu brif ofalwr person hŷn neu berson anabl sy’n agored i niwed yn glinigol, rydych bellach yn gymwys i gael y brechlyn.

Mae’r rheini sy’n agored i niwed yn glinigol i COVID-19 yn cynnwys:

  • plant sydd â niwroanableddau difrifol
  • pobl sydd wedi’u dynodi yn Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol, oedolion sydd â chyflyrau iechyd isorweddol
  • y rheini sydd angen gofal oherwydd henaint

Sut i drefnu eich brechlyn

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, cewch eich gwahodd i gael y brechlyn COVID-19.

Mae ffurflenni ar gael ar dudalennau gwe byrddau iechyd y GIG. Mae angen i chi ddewis eich bwrdd iechyd lleol (neu’r bwrdd iechyd lle mae eich practis meddyg teulu wedi’i leoli):

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Sut mae diffinio 'agored i niwed yn glinigol'

Wrth benderfynu pa ofalwyr y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer brechu, mae tri ffactor pwysig i'w hystyried:  

1) Pa mor agored i niwed yw'r person sy'n derbyn gofal

Mae'r person yma yn:

  • yn 65 oed ac yn hŷn (grŵp 5)
  • yn cael ei ystyried yn hynod o agored i niwed yn glinigol (grŵp 4)
  • â chyflwr iechyd isorweddol diffiniedig gan gynnwys salwch meddwl (yn gymwys o dan grŵp 6)
  • yn blentyn o dan 16 oed sydd ag anghenion meddygol cymhleth/niwro-anableddau difrifol

2) Mae natur y gofal a ddarperir i'r rhai 16 oed ac yn hŷn:

yn cynnwys helpu gyda:

  • bwyta
  • ymdrochi
  • eillio
  • rheoli ymataliaeth
  • gwisgo a cherdded
  • heb fod yn gyfyngedig i'r uchod

Gall gynnwys ymyrryd mewn

  • ymddygiad heriol neu ymddygiad sy'n peri risg
  • gall gynnwys darparu lefelau sylweddol o gymorth a goruchwyliaeth gartref neu yn y gymuned a lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl.

Mae natur y gofal a ddarperir i blant o dan 16 oed sydd ag anghenion meddygol cymhleth/niwro-anableddau difrifol:

  • y tu hwnt i'r gofal a'r cymorth y mae rhieni fel arfer yn eu darparu ar gyfer plentyn. Mae'n debygol o gynnwys tasgau fel gofal tiwb traceostomi,  sugnedd llwybr anadlu, adleoli i reoli mannau pwyso ac ymyriadau gofal megis ffisiotherapi anadlol. Gall gynnwys gofal personol dwys megis ymolchi dyddiol a gofal ymataliaeth a/neu reoli ymddygiadau heriol.

3) Y gofalwr yw'r unig ofalwr neu'r prif ofalwr:

Rydym yn cydnabod y gall gofalu am rai pobl ei gwneud yn ofynnol i ddau berson gynorthwyo gyda thasgau fel :

  • lleoli
  • codi
  • ymdrochi
  • newid

Efallai y bydd trefniadau lle mae dau berson yn rhannu'r cyfrifoldebau gofalu'n gyfartal. Mewn achosion o'r fath, gellir ystyried y ddau ofalwr fel y prif ofalwyr. 

Nid yw cymhwysedd ar gyfer blaenoriaeth yn dibynnu ar dderbyn lwfans gofalwr, aelodaeth o sefydliad gofalwyr neu fod yn hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol. 

Y Byrddau Iechyd Lleol, gan weithio gyda'u priod Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gyfrifol yn y pen draw am nodi gofalwyr di-dâl. Cydnabyddir yr angen am ddisgresiwn, ond dylid cyflawni'r disgresiwn hwnnw o fewn y ffiniau a nodir yn y canllawiau hyn.