Bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gallu cael cymorth gan gynllun i’w helpu i brynu eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw.
Bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn gallu cael cymorth gan gynllun i’w helpu i brynu eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw.
Bydd gofalwyr sy’n gofalu am oedolyn neu blentyn anabl yn gallu gwneud cais am grant hyd at £300 i dalu am fwyd, eitemau i’r cartref, ac eitemau electronig.
Bydd gwasanaethau cymorth, megis cwnsela, cyngor ariannol, llesiant, a chymorth gan gyfeillion cefnogol hefyd ar gael.
Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £4.5m yn y Gronfa Gymorth i Ofalwyr gan Lywodraeth Cymru yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf, wedi ei rannu’n £1.5m bob blwyddyn.
Bydd yr arian yn helpu gofalwyr di-dâl sy’n dioddef caledi ariannol oherwydd yr argyfwng costau byw ac effeithiau parhaus y pandemig.
Gall fod yn hynod anodd i ofalwyr dalu costau gofal di-dâl oherwydd biliau ynni uchel i gadw eu cartrefi’n gynnes, costau teithio i apwyntiadau ysbyty, a chostau prynu offer arbenigol neu gadw at ofynion deietegol.
Cafodd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ei sefydlu ym mis Hydref 2020 gyda £1m, fel ymateb i dystiolaeth gynyddol o ba mor anodd oedd hi i ofalwyr di-dâl ymdopi ag effeithiau ariannol y pandemig.
Cafodd £1.4m ychwanegol ei neilltuo'r flwyddyn ganlynol, gyda thros 10,000 o ofalwyr di-dâl sydd ar incwm isel yn manteisio ar y gronfa ers iddi gael ei lansio. Cafodd 70% o grantiau eu darparu drwy gynllun talebau ar gyfer bwyd neu bethau eraill.
Dywedodd rhywun, a oedd wedi cael cymorth, fod y grant wedi lleihau’r pwysau arno i raddau helaeth y mis hwnnw o ran sut yr oedd yn mynd i gadw ei blant yn gynnes, a bod yr arian yr oedd wedi ei arbed wrth siopa wedi mynd yn syth i mewn i’r meter nwy.
Am y ddwy flynedd dan sylw, mae’r gronfa wedi cael ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’u partneriaid lleol.
Bydd y gronfa dair blynedd yn helpu i weithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol, drwy ddiogelu a datblygu gwasanaethau ar gyfer grŵp agored i niwed.
Nid yw bod yn gymwys i gael y grant hwn yn gysylltiedig â’r Lwfans Gofalwr, pensiynau na budd-daliadau eraill. Bydd y manylion am sut i wneud cais am y grant ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Does dim ffordd o fesur y cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn ei wneud i wella iechyd, llesiant, diogelwch, ac ansawdd bywyd y rheini y maen nhw’n gofalu amdanynt. Ar yr un pryd maen nhw’n lleihau’n sylweddol y baich ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dw i’n gobeithio y bydd y cyllid hwn yn helpu i gefnogi’r rheini yn eu plith sy’n dioddef caledi ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw.
Dw i wedi siarad â llawer o ofalwyr sydd wedi dweud sut mae’r gronfa wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau, fel y gallu i dalu am ginio Nadolig a chael nwyddau trydanol hanfodol. Dyna pam dwi mor falch ein bod yn gallu parhau â’r cyllid am y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y gronfa hanfodol hon a’i bod wedi ei hymestyn i weithredu am y tair blynedd nesaf.
Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr eisoes wedi cyrraedd dros 10,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru drwy grantiau a gwasanaethau sy’n eu helpu i ymdopi bob dydd.
Wrth i’r costau byw gynyddu gan roi ergyd difrifol i ofalwyr, bydd ymestyn y gronfa yn caniatáu inni gefnogi miloedd yn rhagor ohonynt drwy helpu i ddarparu’r cymorth ymarferol ac ariannol y mae ei angen.