Neidio i'r prif gynnwy

Gall gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau fod y gwasanaeth rheilffyrdd gorau i deithwyr yn y DU o fewn y 15 mlynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r neges gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fydd yng ngorsaf Pontypridd heddiw i nodi diwrnod cyntaf llawn gwasanaethau rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau.

Yn y lansiad, fydd yn golygu diwedd ar y berthynas 15 mlynedd gyda Threnau Arriva Cymru, bydd y Prif Weinidog yn trafod pwysigrwydd hanesyddol ac economaidd y contract newydd.

Bydd yn dweud:

"Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i reilffyrdd yng Nghymru - yn wir ar gyfer datganoli.

O dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, gyda'n partneriaid KeolisAmey, dyma fydd y gwasanaeth rheilffyrdd cyntaf 'wedi'i wneud yng Nghymru', wedi'i gynllunio a'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cyfle i ail-gynllunio a gosod pwrpas newydd i'n rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn gyfle a ddaw unwaith mewn oes, a dwi'n hyderus y bydd y gwasanaeth rheilffyrdd gorau i deithwyr yn y DU erbyn 2033.

Mae'r cyfle i ddatblygu system drafnidiaeth integredig sy'n annog twf economaidd ac sy'n cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yn well ar draws pob plaid wleidyddol, a'r cyfle i ddatblygu systemau Metro yma yn Ne-ddwyrain Cymru, yn y Gogledd-ddwyrain a ger Bae Abertawe, yn tynnu sylw ledled y byd."

Bydd hefyd yn talu teyrnged i'r bobl ar y rheng flaen:

"Mae'n bwysig deall y bydd ein huchelgeisiau dewr yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth ac ni fydd hyn yn digwydd dros nos.

Fodd bynnag, pan fyddaf yn siarad â'r gyrwyr, y staff cynnal a chadw neu'r staff yn y neuaddau tocynnau ledled Cymru, mae eu brwdfrydedd a'u hyder yn yr hyn y gall ein rhwydwaith rheilffyrdd fod yng Nghymru yn creu argraff arnaf bob tro.

Rydyn ni'n lwcus i gael cynifer o bobl, sy'n dod i weithio i'r gwasanaeth pob diwrnod, ac sydd wir am wella pethau - ac sy'n gweld y posibiliadau i ddatblygu.

Rydyn ni am ddefnyddio eu syniadau a gwneud ein rheilffyrdd yn esiampl i bawb ledled y byd."

Wrth siarad mewn digwyddiad cynharach yng Ngogledd Cymru, rhoddodd Ken Skates yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth amlinelliad o rai o'r nifer o welliannau y mae disgwyl i deithwyr eu gweld yn yr ychydig wythnosau, misoedd a blynyddoedd nesaf:

“Gyda'r buddsoddiad yn rhoi cyfanswm o bron £5 biliwn dros y ddegawd a hanner nesaf, caiff ein rhwydwaith ei thrawsnewid. Rydym wedi ymrwymo £800 miliwn i ddarparu trenau newydd ar draws y rhwydwaith, fydd erbyn 2023 yn golygu bod 95% o deithiau rheilffyrdd yn cael eu gwneud ar drenau newydd. Bydd £194 miliwn arall yn cael ei roi i wella profiadau teithwyr yn ein gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

Mae £738 miliwn wedi ei glustnodi i foderneiddio'r rheilffyrdd metro canolog, gan alluogi mwy o drenau i redeg pob awr. Bydd gwasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynnig 600 o swyddi newydd a 450 o brentisiaethau dros gyfnod 15 mlynedd y contract.

Bydd teithwyr yn mwynhau manteision cyflwyno tocynnau doeth ar draws y rhwydwaith, a thrwy gynnig teithio am ddim i blant dan 11 a thocynnau hanner pris i bobl ifanc rhwng 16 ac 18 mlwydd oed, byddant yn gweld gwelliannau economaidd hefyd.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gymru, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant wrth gyflawni'r newidiadau trawsnewidiol hyn ar ein rhan.”


Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae gan Trafnidiaeth Cymru gynlluniau arloesol i chwyldroi trafnidiaeth ledled Cymru ac uchelgais i greu gwasanaeth rheilffyrdd sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf. Mae cymryd yr awenau o ran rheoli gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn gam pwysig iawn ar daith drawsnewid gyffrous a fydd hefyd yn creu Metro De Cymru.”

Dywedodd Kevin Thomas, Prif Weithredwr Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Mae ein cwsmeriaid, pobl Cymru a’r ardaloedd ar y ffin yn haeddu gwasanaeth sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth. Rydyn ni’n gwybod bod gan bobl ddisgwyliadau uchel o ran y trawsnewid a fydd yn digwydd yn y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n benderfynol o ennyn eu ffydd ynom a datblygu gwasanaeth sy’n rhagori ar eu disgwyliadau.”