Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi llongyfarch myfyrwyr TGAU ar eu canlyniadau, wrth i berfformiad cyffredinol canlyniadau ledled Cymru wella.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae canlyniadau’r haf hwn yn nodi diwedd y daith i ddiwygio TGAU yng Nghymru. Eleni, fe safodd disgyblion Cymru arholiadau’r saith pwnc TGAU olaf i gael  eu diwygio, gan gynnwys Hanes, Cyfrifiadureg a Chymraeg Ail Iaith.

Mae'r prif ffigurau o ganlyniadau dros dro heddiw yn cynnwys y canlynol:

  • Mae perfformiad cyffredinol wedi gwella: 62.8% yn cyflawni A * -C yn gyffredinol (i fyny 1.2% pwynt)
  • Mae cyfradd basio A* - A wedi aros yn sefydlog ar 18.4%
  • Mae canran y disgyblion sy'n ennill graddau A*-A ac A*-C ym mhob un o’r pynciau gwyddonol unigol (Bioleg, Cemeg, Ffiseg) wedi codi
  • Mae nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg  wedi cynyddu 22.8%, gyda dros 2,800 yn fwy yn ennill graddau A*-C o gymharu â 2018
  • Enillodd 58.1% o fyfyrwyr radd A*-C mewn TGAU Mathemateg - Rhifedd, ac enillodd 59% radd A*-C mewn TGAU Mathemateg (y canlyniad a gafwyd gan bobl ifanc 16 oed, fel y nodwyd gan y JCQ)

Dyma'r flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll yr arholiadau TGAU Cymrag Ail Iaith newydd ar ôl i’r opsiwn cwrs byr gael ei ddileu llynedd. Er ei fod yn fwy heriol, mae'r cynnydd yn y nifer a ymgeisiodd wedi arwain at gynnydd o 12.5% o ddysgwyr yn ennill A*-C yn y cymhwyster cwrs llawn.

Eleni, fe wnaeth 1,500 o ddysgwyr ychwanegol sefyll arholiadau TGAU Gwyddoniaeth, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol llynedd. Mae'r newid diwylliant parhaus hwn o ganlyniad i'r symudiad i ffwrdd oddi wrth gofnodion cyffredinol i gymwysterau gwyddoniaeth alwedigaethol yn 16 oed.

Wrth siarad yn ystod ei hymweliad ag Ysgol y Brenin Harri VIII yn y Fenni, dywedodd Kirsty Williams:

“Heddiw rydym wedi gweld gwelliant mewn perfformiad cyffredinol ledled Cymru. Hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw a diolch i'r athrawon sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni’r cymwysterau newydd hyn.

“Llynedd gwelsom gynnydd dramatig o 50% yn y niferoedd ar gyfer TGAU gwyddoniaeth. Rwy'n falch o weld bod niferoedd a chanlyniadau yn parhau i gynyddu, gyda mwy o ddisgyblion yn ennill graddau A*-C, a mwy yn ennill y graddau uchaf mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg.

“Mae'r cynnydd hwn yn nifer y dysgwyr sydd yn sefyll arholiadau gwyddoniaeth yn golygu bod mwy o bobl ifanc yn derbyn cymwysterau sy'n arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer astudio gwyddoniaeth ymhellach. Mae hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer gwyddonwyr Cymru yn y dyfodol.”

Wrth drafod newidiadau diweddar i’r TGAU Cymraeg Ail Iaith, dywedodd y Gweinidog:

“Hon oedd y flwyddyn gyntaf i ddysgwyr sefyll y cwrs llawn TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd, ar ôl cael gwared ar yr opsiwn cwrs byr y llynedd.

“Gan fod hwn yn gymhwyster mwy heriol, roedd disgwyl y byddai’r cyrhaeddiad cyffredinol yn cael ei effeithio gyda llawer mwy o ddysgwyr nawr yn gorfod dilyn y cwrs llawn newydd. Er hyn, mae nifer y disgyblion sydd wedi cael canlyniadau A*-C wedi cynyddu o dros 1,300.

“Mae angen gwneud rhagor o waith o hyd, ond mae’r TGAU newydd yn rhoi ffocws cryfach i ddysgwyr ar siarad, gwrando, a defnyddio’r iaith yn ymarferol yn eu bywydau o ddydd i ddydd.”