Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, gynlluniau a fydd yn galluogi hwb sylweddol i gapasiti rheilffyrdd ar Brif Linell Gogledd Cymru yn 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu capasiti rheilffyrdd 40%, gyda 50% yn fwy o wasanaethau wedi'u hamserlennu, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £800m mewn trenau CAF newydd sbon a recriwtio gyrwyr ychwanegol a chriwiau trenau.

Mae angen newidiadau ar nifer o groesfannau rheilffordd er mwyn gallu gweithredu'r gwasanaethau ychwanegol hyn ar y lein.

I gefnogi hyn, mae Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn cynnal rhaglen o ymgynghori, cynllunio a datblygu lleol ar y cyd i gau croesfannau pedair rheilffordd ar hyd prif reilffordd Gogledd Cymru.

Mae'r cynigion yn cynnwys pont droed dros dro, ac yn y dyfodol pont droed barhaol, hygyrch ger Pensarn yn cau dwy groesfan llwybr troed, gyda dull tebyg ym Mhrestatyn, cau dwy groesfan gerllaw a chael gwared ar gyfyngiad cyflymder dros dro.

Yn y cyfamser, mae Network Rail a Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r gymuned leol ar gau croesfan llwybr troed yn barhaol ar y llinell gangen yn Neganwy.

Wrth siarad ar ymweliad i orsaf y Fflint, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:

"Rwy'n falch iawn bod gennym bellach gynlluniau cadarn ar waith i gyflawni'r cynnydd enfawr hwn mewn capasiti rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru. Bydd yr uwchraddiadau diogelwch hyn yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gynyddu cysylltedd yn sylweddol gyda llawer mwy o wasanaethau a dewis go iawn o ran trafnidiaeth i gymunedau yng Ngogledd Cymru.

"Mae'n dangos pa waith partneriaeth sy'n gallu cael ei gyflawni: ar lefel diwydiant drwy Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, a gyda Llywodraeth y DU yn San Steffan yn cydweithio â Llywodraeth Cymru."

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

"Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru rydym yn benderfynol o wneud gwelliannau mawr i wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru.

 "Dim ond y dechrau yw datgloi mwy o gapasiti rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i drawsnewid gwasanaethau i deithwyr am genedlaethau i ddod."

Meddai Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant TrC:

"Mae TrC yn parhau i fuddsoddi a thrawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau a bydd y newidiadau hyn yn y dyfodol yn ein helpu i wella profiad y cwsmer ymhellach.

"Byddwn yn gallu cynyddu cysylltedd a chynnig mwy o wasanaethau rheilffordd i bobl Gogledd Cymru."

Meddai Emma Osborn, Cyfarwyddwr Strategaeth Teithwyr, Cymru a'r Gororau, Network Rail:

"Rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Chynghorau Sir Ddinbych a Chonwy, preswylwyr ac eraill i wella diogelwch ar y rheilffyrdd a hefyd i gyflawni gwelliannau yn yr amserlen ar gyfer ein cymunedau yng Ngogledd Cymru. Rydym yn croesawu ymweliad yr Ysgrifennydd Cabinet a'r gefnogaeth barhaus i’r cyfleodd hyn."

Yng ngorsaf y Fflint gwelodd yr Ysgrifennydd Cabinet  ystod o waith uwchraddio gorsafoedd sy'n cael eu cyflawni i drawsnewid yr orsaf ar gyfer teithwyr.

Mae'r rhain yn cynnwys uwchraddio llochesi, ystafelloedd aros, cyfleusterau toiledau ac ardal eistedd newydd yn ogystal â gosod pont droed newydd gwbl hygyrch – gan ddarparu mynediad heb risiau yn y Fflint am y tro cyntaf.