Neidio i'r prif gynnwy
Jeremy Miles AS

Cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Cyfrifoldebau

  • Y Gymraeg
  • Cymorth a chyngor i helpu busnesau i sefydlu, tyfu neu ddatblygu (gan gynnwys cymorth allforio a mewnfuddsoddi)
  • Polisi Masnach Ryngwladol, gan gynnwys cydlynu materion yn ymwneud â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE
  • Digwyddiadau mawr
  • Entrepreneuriaeth, menter a gwybodaeth fusnes
  • Goruchwyliaeth hyd braich o Faes Awyr Caerdydd
  • Polisi ynni gan gynnwys cynhyrchu ynni ar raddfa fach a chanolig, ynni domestig, effeithlonrwydd ynni
  • Yr economi gylchol
  • Ynni Adnewyddadwy
  • Ynni Niwclear
  • Banc Datblygu Cymru
  • Banc Cymunedol
  • Hyrwyddo Cymru fel lleoliad i wneud Busnes ac i Fuddsoddi ynddo
  • Polisi porthladdoedd, gan gynnwys porthladdoedd rhydd
  • Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf
  • Caffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd
  • Busnes Cymru
  • Polisi gyrfaoedd a noddi Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG)
  • Polisi prentisiaethau, a chyflawni hynny
  • Polisi cyflogadwyedd Ieuenctid ac Oedolion, a chyflawni hynny
  • Darparwyr dysgu seiliedig ar waith
  • Datblygu sgiliau'r gweithlu
  • Mudo
  • Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
  • Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
  • Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer arferion busnes cyfrifol, twf a chystadleurwydd
  • Yr Economi Sylfaenol
  • Menter Gymdeithasol a'r economi gymdeithasol
  • Economi gydweithredol
  • Gwyddoniaeth: datblygu polisi gwyddoniaeth, gan gynnwys cyswllt â Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
  • Gwyddorau Bywyd
  • Ymchwil ac Arloesi, gan gynnwys ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio; manteisio i’r eithaf ar incwm ymchwil ac arloesi, a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil
  • Seilwaith cysylltedd digidol, gan gynnwys Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, band eang cyflym a'r rhwydwaith symudol
  • Polisi a Strategaeth Digidol a Data ar draws y Llywodraeth
  • Cronfeydd Strwythurol yr UE / Buddsoddi Rhanbarthol yn y Dyfodol

Bywgraffiad

Cafodd Jeremy Miles ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais. Ac yntau'n siaradwr Cymraeg, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe a New College, Rhydychen lle bu'n astudio'r gyfraith. Yn syth ar ôl graddio, bu Jeremy'n addysgu'r gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl. Yn ddiweddarach, bu'n ymarfer fel cyfreithiwr yn Llundain ac wedyn bu ganddo uwch swyddi cyfreithiol a masnachol mewn busnesau yn sector y cyfryngau, gan gynnwys ITV a rhwydwaith teledu'r Unol Daleithiau a stiwdio ffilmiau NBC Universal. Ar ôl dychwelyd i Gymru sefydlodd ei ymgynghoriaeth ei hun yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn y sectorau darlledu a digidol.

Cafodd Jeremy ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer etholaeth Castell-nedd ym mis Mai 2016 fel yr ymgeisydd Llafur a'r Blaid Gydweithredol, yn dilyn ymddeoliad Gwenda Thomas, AC. Ar 16 Tachwedd 2017 penodwyd Jeremy yn Gwnsler Cyffredinol ac ar 13 Rhagfyr 2018 fe'i penodwyd yn Gwnsler Cyffredinol ac yn Weinidog Brexit. Penodwyd Jeremy yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 13 Mai 2021, ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ar 21 Mawrth 2024.

Mae ei ddiddordebau'n cynnwys datblygu economaidd a chymunedol, ac addysg a sgiliau. Mae hefyd yn mwynhau ffilmiau, darllen, coginio, beicio, heicio a dilyn rygbi'n lleol.

Ysgrifennu at Jeremy Miles