Neidio i'r prif gynnwy

Gall plâu a chlefydau gael effaith sylweddol ar iechyd ein planhigion, ein coed a'n coetiroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae bygythiadau i blanhigion a choed gan blâu a chlefydau yn cynyddu o ganlyniad i newid hinsawdd a globaleiddio. Dros y degawdau diwethaf, mae plâu a chlefydau planhigion a choed newydd wedi'u canfod yn y DU. Mae rhai bellach wedi'u sefydlu gyda chanlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol difrifol.

Rydym wedi nodi yn strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr sut rydym yn bwriadu ymateb i fygythiadau plâu a chlefydau planhigion.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ystod ehangach o blâu a chlefydau planhigion a choed yn:

Ledled Cymru, rydym wedi hyfforddi arolygwyr o:

Maent yn cynnal arolygon ymateb cyflym a rheolaidd. Maent yn gwirio coedwigoedd, porthladdoedd, meithrinfeydd a lleoliadau eraill am arwyddion o blâu a chlefydau.

Wedi gweld haint neu glefyd?

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth i'ch helpu i adnabod plâu a chlefydau yn Forest Research.

Os ydych chi'n amau coeden o gael pla neu glefyd, rhowch wybod arnoch. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, gan gynnwys y lleoliad a'r rhywogaethau yr effeithir arnynt.