Neidio i'r prif gynnwy

Dilynwch y rheolau hyn er mwyn osgoi derbyn iawndal is am wartheg a gaiff eu lladd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Ein nod hirdymor yw dileu TB gwartheg yng Nghymru. Rydym yn talu iawndal i berchnogion y gwartheg sy’n cael eu difa oherwydd TB.

Nodir y trefniadau ar gyfer talu iawndal am wartheg sy’n cael eu lladd oherwydd TB yng Ngorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd). Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011 (fel y'i diwygiwyd) yn disgrifio’r trefniadau ar gyfer talu iawndal am anifeiliaid nad ydynt yn wartheg. Fel arfer, telir yr iawndal llawn. Ond byddwn yn lleihau’ch iawndal os: 

  • nad ydych wedi dilyn y rheolau a nodir yng Ngorchymyn TB
  • nid oes gan yr anifail Basbort Gwartheg dilys ar y fferm adeg ei brisio, neu os
  • yw’r anifail wedi cael ei symud dan drwydded i ddaliad sydd dan gyfyngiadau symud

Mae'r rhan fwyaf o berchnogion yn cadw at y rheolau ac yn gweithio gyda ni i ddileu TB. Diben lleihau’r iawndal yw annog ceidwaid anifeiliaid i gadw at yr arfer gorau. Diben lleihau’r iawndal am eich bod wedi symud anifeiliaid o dan drwydded i ddaliad sydd â phroblem TB hysbys, yw cael y perchennog i rannu'r risg ariannol.

Y broses brisio

Os bydd angen lladd gwartheg oherwydd TB, bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn anfon Hysbysiad o Fwriad i Ladd atoch a bydd yn:

  • rhestru'r anifeiliaid y mae'n rhaid eu lladd, a
  • y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud hyn

Rhaid i’r anifeiliaid adael y daliad cyn gynted ag y modd. Bydd hyn yn lleihau'r risg y bydd anifeiliaid eraill yn cael eu heintio â TB.

Sylwch: Os na fydd y gwartheg wedi gadael y daliad erbyn y dyddiad a bennwyd, gallwn leihau’r iawndal TB hyd at 75%. Bydd hyn yn dibynnu ar hyd yr oedi.

Bydd APHA yn penodi prisiwr i bennu gwerth yr anifeiliaid ar y farchnad. Gall perchennog yr anifeiliaid wrthod y penodiad ond dim ond os oes gwrthdaro â buddiannau personol neu’r busnes. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn penodi prisiwr fydd wedi cael ei enwebu’n annibynnol.

Paratoi ar gyfer y prisiad 

Gwnewch yn siŵr bod yr anifeiliaid ar gael i'r prisiwr eu harchwilio'n hawdd. Sicrhewch fod yr holl waith papur ategol ar gael:

Sylwch: 

  • bydd angen PDC ar gyfer pob anifail cyflo
  • rhaid i'r PDC fod ar y ffurflen TR531 gan eich milfeddyg
  • os na fyddwch yn cyflwyno PDC gyda’r TR531 a’u llenwi’n gywir, byddwn yn prisio’r fuwch fel pe bai hi ddim yn gyflo
  • ni fyddwn yn derbyn unrhyw fath arall o ddogfen fel prawf; dim ond TR531 sy’n gwneud y tro

Er mwyn i ni allu prisio’r anifail, rhaid bod ganddo dag clust cywir. Rhaid bod ganddo hefyd basbort gwartheg dilys ar y fferm. Os na chaiff y pasbort ei gyflwyno wrth brisio’r anifail, byddwn yn dal i brisio’r anifail. Ond rhaid i’r perchennog gyflwyno’r pasbort i APHA o fewn 10 diwrnod ar ôl prisio’r anifail.

Os na fydd APHA wedi cael y pasbort erbyn hynny:

  • dim fydd gwerth yr anifail, a
  • bydd £1 o iawndal yn cael ei dalu ichi 

Ni ystyrir bod gan wartheg unrhyw werth ar y farchnad os:

  • cafodd pasbort ei wrthod iddynt
  • yw pasbort yr anifail wedi’i ddirymu
  • mae gan yr anifail Hysbysiad Cofrestru CPP35

Bydd rhaid lladd yr anifeiliaid hyn ar y fferm. Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd) yn mynnu bod iawndal yn cael ei dalu am wartheg sy'n cael eu lladd oherwydd TB. O dan yr amgylchiadau hyn, telir iawndal o £1 yr anifail.

Gwartheg 37 diwrnod oed ac iau

Yr unig eithriad i hyn yw lloi 37 diwrnod oed neu iau. Mae gan berchennog lloi 27 diwrnod i wneud cais am basbort gwartheg a dylai roi 10 diwrnod i’r BCMS gael y pasbort iddo. Oherwydd hyn, bydd lloi 37 diwrnod oed neu iau yn cael eu prisio hyd yn oed os nad oes pasbort ar y fferm adeg eu prisio. 

Bydd yn rhaid lladd llo o'r oedran hwn ar y fferm, gan na chewch ei symud heb basport. Ond bydd yr iawndal yn seiliedig ar ei werth ar y farchnad fel y'i sefydlwyd yn y prisiad.

Priswyr

Bydd APHA yn penodi prisiwr proffesiynol i brisio anifeiliaid ar ein rhan. Bydd gan y priswyr:

  • o leiaf 8 mlynedd o brofiad o brisio anifeiliaid
  • yn deall gwerth y farchnad anifeiliaid

Nid oes modd newid y prisiwr a ddewisir na thrafod ei brisiad nac apelio yn ei erbyn. Ni fydd staff APHA yn cael newid y prisiwr na’i brisiad. 

Bydd y prisiwr yn ymweld â’ch fferm i brisio’ch anifeiliaid. Bydd yn llenwi’r gwaith papur i ddangos hynny. Dylai perchennog yr anifeiliaid roi’r wybodaeth a’r dystiolaeth sydd eu hangen ar y prisiwr. Gall hynny gynnwys tystysgrifau pedigri, i’r prisiwr allu eu hystyried. Cofiwch, ni fydd Tystysgrifau ASR a BSR yn brawf o bedigri anifail. 

Gwnaiff APHA eu gorau glas i drefnu bod ymweliad y prisiwr yn digwydd ar amser cyfleus i’r ffermwr. Ond efallai na fydd hynny bob amser yn bosib oherwydd cymhlethdod trefnu priswyr a chludwyr. 

Yng Nghymru, nid oes gofyn i ffermwyr lofnodi’r prisiadau. Gan nad oes angen llofnod y perchennog, caiff y ffermwr drefnu bod ei gynrychiolydd ar y fferm i:

  • drefnu’r anifeiliaid,
  • rhoi’r gwaith papur perthnasol sydd ei angen ar gyfer y prisiad
  • sicrhau bod y wybodaeth ar waith papur y prisiad yn gywir. Bydd hynny’n sicrhau ein bod yn talu'r iawndal i'r busnes/person cywir. Gofalwch fod enw a chyfeiriad y perchennog yn gywir (yn enwedig os yw'n wahanol i gyfeiriad y daliad)

Pan fydd y gwaith prisio wedi'i wneud, bydd APHA yn prosesu'r gwaith papur er mwyn inni allu’ch talu.

Cadarnhau bod prisiadau’n gywir 

Rydym wedi penodi panel monitro i sicrhau bod prisiadau yn cyd-fynd â gwerth cyfredol gwartheg ar y farchnad. Bydd y panel yn gallu gofyn i briswyr esbonio’u prisiadau a gofyn i briswyr am dystiolaeth o'r rhesymau dros roi prisiad penodol. Gall tystiolaeth gynnwys: 

  • copïau o gofnodion gwerthu anifeiliaid cymharol yn y DU,
  • cymharu lotiau penodol a werthwyd mewn martiau penodol ar ddyddiadau penodol 

Mae priswyr yn bobl broffesiynol. Ni fyddant yno i drafod prosesau neu bolisïau. Dylech holi APHA os oes gennych gwestiynau neu os hoffech adborth. 

Mynd â gwartheg i’w lladd

Dyma’r amodau ar gyfer mynd â gwartheg i’w lladd: 

  • rhaid bod ganddynt dag clust, yn unol â Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
  • rhaid bod ganddynt basbort gyda’r manylion cywir arno
  • rhaid i’r pasbort deithio gyda’r anifail i’r lladd-dy

Ni fydd anifail heb basbort gwartheg dilys yn cael teithio i ladd-dy. Bydd yn rhaid ei ladd ar y fferm.

Rydyn ni’n eich cynghori i edrych ar basbortau’ch holl wartheg i sicrhau eu bod yn gywir cyn cynnal y prawf TB. Bydd hyn yn rhoi amser i chi ofyn i’r BCMS am newidiadau neu basbortau newydd os oes angen. Rhaid dangos y pasbort cywir i’r prisiwr.

Os oes gennych wartheg sydd angen eu difa ond sydd wedi cael meddyginiaeth sy’n golygu bod angen eu cadw o’r gadwyn fwyd, rhaid rhoi gwybod i APHA pan fydd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad prisio. Bydd yn rhaid lladd y gwartheg hyn ar y fferm.

Os nad yw anifail mewn cyflwr addas i deithio:

  • am y bydd yn geni llo yn y 27 diwrnod nesaf
  • am iddi eni llo yn y 7 diwrnod diwethaf
  • am ei fod yn gloff neu'n sâl

rhaid ichi roi gwybod i APHA pan fydd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad prisio. Bydd APHA yn trefnu bod yr anifail yn cael ei ladd ar fferm.

Rhaid i anifeiliaid gydymffurfio â'r Polisi Da Byw Glân ac felly rhaid eu glanhau at safon dderbyniol cyn eu hanfon i'w lladd.

Oedi cyn symud

Mae'n bwysig bod yr anifeiliaid sydd angen eu cymryd o fferm sydd â TB ynddi yn cael eu symud mor gyflym â phosibl. Byddwn yn lleihau’r iawndal:

  • os na fydd perchennog y fuches yn cydweithio i symud y gwartheg y mae angen eu lladd ac,
  • os yw’r gwaith o’u symud yn cael ei ohirio am fwy na 10 diwrnod gwaith o'r dyddiad pan nodwyd bod angen lladd yr anifeiliaid

Ni fyddwn yn lleihau’r iawndal os byddwch yn colli’r targed o 10 diwrnod am resymau y tu hwnt i’ch rheolaeth.

Gwartheg sy’n cael eu symud i fuches sydd dan gyfyngiadau

Os amheuir bod TB ar anifail, bydd cyfyngiadau symud yn cael eu rhoi ar y daliad. Os caiff gwartheg eu symud i’r daliad hwnnw wedyn, bydd perygl y gallai’r gwartheg hynny ddal yr haint. Bydd hynny’n groes i egwyddorion rheoli clefydau heintus. Er mwyn cael ailstocio, rhaid cynnal Asesiad Risg Milfeddygol. Ond chewch chi ddim ailstocio nes bod y gwartheg yn cael canlyniad negatif i un neu fwy o brofion TB swyddogol.

Gall APHA roi trwydded i berchennog gael dod â gwartheg i fferm sydd o dan gyfyngiadau TB. Os bydd yn rhaid lladd yr anifeiliaid hyn wedyn oherwydd TB, cyn i'r fuches gael ei datgan fel buches heb TB, dim ond hanner (50%) yr iawndal fydd yn cael ei dalu am yr anifeiliaid hyn. Mae’r drefn hon yn caniatáu i'r ffermwr ailstocio ond gan rannu'r risg ariannol o ddod â gwartheg iach i fuches sydd â phroblem TB. Mae’n bosib y caiff yr iawndal am yr anifeiliaid hyn ei ohirio wrth i ni gyfrif faint o iawndal sy'n ddyledus.

Pwysig: Gallech gael eich erlyn am symud gwartheg - i'ch daliad neu ohono - heb drwydded symud ddilys, am y bydd hynny’n torri Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd). Bydd 95% o leihad yn yr iawndal TB am anifeiliaid sydd wedi cael eu symud heb drwydded. 

Iawndal

Fel arfer, bydd yr iawndal a delir yn cyfateb i werth yr anifail gafodd ei ladd oherwydd TB.

Pryd y byddwn yn lleihau’r iawndal

Byddwn yn lleihau’r iawndal pan fyddwn yn fodlon eich bod wedi torri rheolau’r Gorchymyn TB, hynny ar ôl pwyso a mesur y sefyllfa’n deg. Rydym wedi llunio rhestr o'r amgylchiadau lle gall perchennog yr anifail dderbyn llai na gwerth yr anifail ar y farchnad, yn Atodiad A.

Hefyd, mae torri rheolau’r  a nodir yn y Gorchymyn TB yn drosedd. Gall perchnogion sydd ddim yn cadw at ofynion y Gorchymyn gael eu herlyn gan Safonau Masnach yr Awdurdod Lleol gan ddefnyddio'r safon dystiolaeth 'y tu hwnt i bob amheuaeth resymol'.

Sylwch: 

  • os byddwch yn torri’r Gorchymyn TB, gallwn leihau gwerth yr anifail rhwng 5% a 95%
  • os bydd anifail sy'n cael ei symud dan drwydded i ddaliad sydd o dan gyfyngiadau symud yn gorfod cael ei ladd am ei fod wedyn yn dal TB, hanner ei werth ar y farchnad a delir fel iawndal amdano
  • yr iawndal lleiaf a delir fydd gwerth corff yr anifail
  • bydd gwerth yr anifail ar y farchnad (neu ei werth is ar y farchnad ) yn cael ei dalu pan fydd hynny’n fwy na gwerth corff yr anifail
  • os nad oedd pasbort gwartheg dilys yr anifail ar y fferm yn ystod ymweliad y prisiwr, dim ond £1 fydd yn cael ei dalu fel iawndal am yr anifail hwnnw

Mae'r staff y byddwch chi’n siarad â nhw yn ystod yr achos o TB yn dilyn y polisïau y byddwn ni wedi penderfynu arnyn nhw ond byddan nhw’n deall y straen yr ydych yn ei wynebu. Byddan nhw’n manteisio ar bob cyfle i’ch helpu, ond gwnân nhw ddim goddef ymddygiad treisgar, bygythiol neu ymosodol.

Talu iawndal

Pan fydd y taliad yn barod i'w brosesu bydd APHA yn anfon llythyr atoch yn dweud bod y taliad wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru i'w brosesu. O'r pwynt hwnnw bydd yn cymryd 10 diwrnod gwaith i gyrraedd eich cyfrif banc. Nid yw hyn yn cynnwys penwythnosau neu wyliau banc.

Os, ar ôl y 10 diwrnod gwaith, y gwelwch nad yw’r arian wedi cyrraedd eich cyfrif banc, e-bostiwch BovineTB@gov.wales gan nodi’ch CRN a’ch CPH a'r dyddiad roeddech chi’n disgwyl cael eich talu, er mwyn i Lywodraeth Cymru allu ymchwilio i’r mater.

Bydd taliadau TB yn cael eu gwneud gan ddefnyddio system dalu Taliadau Gwledig Cymru (RPW) felly rhaid i ni wybod eich CRN a manylion eich banc. Os hoffech gadarnhau bod eich manylion yn gywir, cysylltwch â RPW Ar-lein.

Dyma rai enghreifftiau o'r iawndal a delir gyda lluosyddion gwahanol:

Gwerth ar y farchnadGwerth y corff LluosyddIawndal
£1,500£5001£1,500
£1,500£5000.75£1,125
£1,500£5000.5£750
£1,500£5000.25£500
£1,500£5000.05£500
£0£01£1

Adennill costau a thaliadau

Mae'r Gorchymyn TB yn rhoi’r hawl i ni adennill ein costau. Mae hynny’n cynnwys costau cyfarpar a/neu staff, lle rydym wedi gorfod cynnal prawf TB am y rhesymau canlynol:

  • mae’r perchennog wedi gwrthod cynnal prawf ar anifail
  • nid yw’r perchennog wedi gadael i anifail gael ei brisio
  • nid yw'r perchennog yn gadael i anifail gael ei ddifa

Rydym hefyd yn gallu gohirio talu iawndal neu gymryd cost neu adennill taliadau o daliadau yn y dyfodol.

Gwerth ar y farchnad

Yr iawndal mwyaf y gallwn ei dalu am anifail yw £5,000. £1 yw'r iawndal lleiaf. 

Rydym yn talu’r iawndal TB i Gyfeirnod Cwsmer (CRN) perchennog yr anifail. Felly, mae'n bwysig eich bod wedi cael CRN a bod eich manylion, gan gynnwys manylion eich cyfrif banc, yn gyfredol. Os oes angen i chi wneud cais am CRN, neu os oes angen i chi newid eich manylion banc neu fusnes, cysylltwch ag RPW Ar-lein.

Apelio

Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad i leihau iawndal, gallwch wneud hynny drwy’n Proses Apelio Annibynnol. Ond cofiwch na fyddwch yn cael apelio yn erbyn y prisiad o werth yr anifail ar y farchnad.

Rhaid i’ch apêl ein cyrraedd ddim hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n rhoi’r penderfyniad yr ydych yn apelio yn ei erbyn. Ni fyddwn yn ystyried apeliadau sy’n ein cyrraedd ar ôl y dyddiad cau hwn.

Cymorth a chefnogaeth

Mae cael achos o TB ar y fferm yn gyfnod anodd iawn i bawb.

Dyma fanylion sefydliadau fydd yn gallu’ch helpu:

Atodiad A: lluosyddion gwerthoedd y farchnad pan gaiff Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (fel y'i diwygiwyd) ei dorri

Pan fydd y lluosydd yn werth llai na 1Y Lluosydd
Heb ufuddhau i orchymyn i ynysu neu orchymyn arall o dan Erthygl 10(3) 0.5
Torri neu anufuddhau eto i fwy nag 1 gofyniad0.05
Llaeth heb ei basteureiddio o fuwch yr amheuir bod TB arni yn cael ei fwydo i lo neu famal arall0.05
Anifail o dan gyfyngiadau yn cael ei symud heb drwydded 0.5
Hysbysiad o Ofynion Bioddiogelwch: 
tramgwydd cyntaf 0.5
tramgwydd wedi hynny0.05
Hysbysiad Gwella Bioddiogelwch: 
tramgwydd cyntaf0.5
tramgwydd wedi hynny 0.05
Heb ufuddhau i orchymyn cyfyngu ar storio, gwasgaru neu symud tail neu slyri0.75
Heb ufuddhau i orchymyn arall o dan Erthygl 18(1) h.y: gorchymyn i ynysu neu gorchymyn glanhau a diheintio: 
tramgwydd cyntaf0.5
 tramgwydd wedi hynny0.05
Heb gynnal prawf ar anifail (y bwlch rhwng dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal y prawf a’r prawf ei hun yw):  
Mwy na 60 niwrnod ond ddim mwy na 90 diwrnod0.5
Mwy na 90 diwrnod0.05
Heb gadw at amodau AFU neu EFU0.05
Anifail yn cael ei ladd oherwydd TB ar ôl iddo ddod, o dan drwydded, i safle sydd o dan gyfyngiadau symud, a chyn i’r fuches adennill ei statws heb TB swyddogol. 0.5
Yn araf yn mynd ag anifail i gael ei ladd. Y bwlch rhwng y diwrnod a bennwyd a’r symudiad yw:   
Mwy na 0 niwrnod gwaith ond ddim mwy na 10 diwrnod gwaith0.75
Mwy na 10 niwrnod gwaith ond ddim mwy na 20 diwrnod gwaith0.5
Mwy nag 20 diwrnod gwaith 0.25
Prawf TB gorfodol h.y. pan gynhelir y prawf o dan Erthygl 12(5) y Gorchymyn 0.05
Lladd yr anifail am nad yw wedi cael prawf h.y. am ei fod yn wyllt neu'n anodd ei reoli 0.05
Heb gadw at ofynion Erthygl 12(2) h.y cuddio'r anifail sydd wedi adweithio neu beidio â dangos yr anifail sydd wedi adweithio0.05
Torri gwaharddiad h.y. defnyddio brechlyn TB, trin TB anifail, cynnal prawf heb ganiatâd, amharu ar brawf0.05

Atodiad B: Cymorth Gwladol

Mae’r cynllun ar agor i fentrau bach a chanolig. 

Rhoddir cymorth yn unol â’r amodau ym Mhennod 1 (darpariaethau Cyffredin) ac Erthygl 26 (darpariaethau penodol) Rheoliad (UE) 702/2014. Diben y mesurau yw digolledu perchnogion am golledion a achosir gan glefydau anifeiliaid. Yn unol ag Erthygl 26.1 o Reoliad (UE) Rhif 702/2014, bydd yn gydnaws â’r farchnad fewnol yn unol â’i ystyr yn Erthygl 107(3) (c) o’r Cytuniad a bydd wedi ei eithrio o’r gofyniad yn Erthygl 108(3) i hysbysu pan fo’n cyflawni’r amodau sydd wedi eu gosod ym mharagraffau 2 i 13 o’r Erthygl hon ac ym Mhennod I. Bydd y cynllun yn cydymffurfio ag Erthygl 26(5) o ran taliadau uniongyrchol. 

Ni fydd y cymorth fesul eitem yn fwy na 100%. Bydd y cymorth yn cael ei gyfyngu i golledion sydd wedi’u hachosi gan TB, sy’n endemig yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r cynlluniau rheoli gwartheg a chefnogi ffermwyr yn benodol i TB fel a grybwyllwyd yn y rhestr o glefydau anifeiliaid a benwyd gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd ac/neu yn Atodiad 1 i Reoliad (UE) Rhif 652/2014. 

Nid yw’r cymorth yn berthnasol i fesurau deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sy’n darparu bod costau mesurau o’r fath yn cael eu talu gan y fferm. Bydd y cynllun yn cydymffurfio ag Erthygl 26.7 i Erthygl 26.9 o Reoliad yr (UE) Rhif 702/2014.