Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy na £9m ar gael i Drafnidiaeth Cymru i ddatblygu gwaith ar fetro Gogledd Cymru, yn ôl Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynlluniau a fydd yn elwa yn cynnwys dros £1m i wella'r amseroedd teithio ar y rheilffyrdd rhwng Wrecsam a Lerpwl.  Darperir £1.5m tuag at yr orsaf integredig newydd yn Shotton, a £670,000 tuag at ddatblygu Parcffordd Glannau Dyfrdwy.  Dyrennir £900,000 tuag at astudiaeth o brif reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, gyda'r nod o wella amseroedd teithio ar wasanaethau penodol.

Mae ychydig dros £1m ar gael ar gyfer Strategaeth Drafnidiaeth Eryri sy'n ceisio annog parcio a theithio, teithio ar fysiau a theithio llesol yn y Parc Cenedlaethol. 

Mae cyllid hefyd ar gael i wella trafnidiaeth gynaliadwy a theithio llesol yng nghanol trefi Wrecsam a'r Rhyl, tra bydd buddsoddiad yn cael ei wneud mewn prosiect i wella mynediad ym Mangor ar gyfer teithio ar y rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol.

Mae hyn yn ychwanegu at gyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf o £25m ar gyfer prosiect Porth Wrecsam i gefnogi datblygiad yr orsaf reilffordd a'r ganolfan drafnidiaeth aml-foddol.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd ein Strategaeth Drafnidiaeth Genedlaethol, Llwybr Newydd, lle gwnaethom addewid beiddgar i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.

Mae'r cyllid heddiw ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi'r addewid hwn.  Mae'n cynnwys edrych ar wella ein gwasanaethau rheilffordd, ei gwneud yn haws symud o amgylch canol ein trefi ar fws, ar droed neu feicio, a'i gwneud yn haws i bobl ymweld ag ardaloedd fel Eryri heb gar.

Bydd y gwaith sydd i'w wneud gan Trafnidiaeth Cymru dros y flwyddyn nesaf yn cyfrannu tuag at ein targed i 45% o deithiau fod drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2045.