Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen brofi yn cael ei ehangu, a brechiadau’n cael eu rhoi’n gyflymach er mwyn helpu Cymru i ailagor yn ddiogel.
Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen brofi yn cael ei ehangu, a brechiadau’n cael eu rhoi’n gyflymach er mwyn helpu Cymru i ailagor yn ddiogel.
Cadarnhaodd y bydd Cymru yn anelu at gynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Gorffennaf, a bydd yn cyhoeddi strategaeth frechu genedlaethol ddiwygiedig ar ddydd Gwener.
Bydd profi mewn gweithleoedd a phrofi cymunedol hefyd yn cael ei ehangu.
Mae’r cynllun i weithleoedd gynnal profion a sefydlu eu safleoedd profi eu hunain bellach yn cael ei ymestyn i sefydliadau cyhoeddus a phreifat gyda mwy na 50 o gyflogeion.
Dywedodd Mr Gething:
“Mae ein rhaglenni brechu a phrofi yn allweddol er mwyn gallu ailagor ein cymdeithas a’n heconomi yn ddiogel.
Mae ein rhaglen frechu yn mynd rhagddi’n gyflym, ac ar ddydd Gwener rwy’n cyhoeddi strategaeth frechu ddiwygiedig yn cynnwys manylion am sut y byddwn, yn amodol ar gyflenwadau, yn cynnig dos cyntaf y brechlyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Bydd gweithleoedd sydd â mwy na 50 o gyflogeion bellach yn gymwys i gael cymorth er mwyn profi eu gweithlu yn rheolaidd, gan helpu i leihau lledaeniad y feirws a’u galluogi i weithredu’n ddiogel.
Ac o’r wythnos nesaf ymlaen, bydd profi cymunedol wedi’i dargedu yn dechrau yn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn yn helpu i ganfod y rheini nad ydynt yn arddangos unrhyw symptomau o’r coronafeirws.
Rydym eisoes wedi amlinellu ein cynlluniau diwygiedig ar gyfer ailagor cymdeithas ac economi Cymru mewn modd diogel a gofalus. Bydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw, yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni hynny mor ddiogel ac mor gyflym â phosibl.”
Bydd y strategaeth frechu ddiwygiedig yn rhoi mwy o fanylion am y blaenoriaethau, yn cynnwys, yn dibynnu ar gyflenwad, sut byddwn yn anelu i gyrraedd y cerrig milltir yn gynharach.
Mae’r cymorth sydd ar gael i weithleoedd yng Nghymru i gyflwyno cynllun profi yn cynnwys darparu dyfeisiau llif unffordd cyflym, hyfforddiant, mynediad at borth profi ar-lein a chanllawiau a gweithdrefnau ar weithredu safonol clinigol.
Bydd y rhaglen profi cymunedol hefyd yn defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd. Bydd pawb sy’n mynychu yn cael prawf gan ddefnyddio’r dyfeisiau, sy’n gallu rhoi canlyniad o fewn 20-30 munud. Gofynnir i unrhyw un sy’n cael canlyniad positif i brawf Llif Unffordd ddychwelyd adref, a hunanynysu ar unwaith, a bydd trefniadau’n cael eu gwneud i gael prawf PCR dilynol.
Er mai mewn tri awdurdod lleol y bydd profi cymunedol ar gael i ddechrau, mae trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda phartneriaid yn y Gogledd, a gallai gael ei gyflwyno ar lefel ehangach yn seiliedig ar amgylchiadau lleol a’r angen a nodir.