Bydd Cymru yn adeiladu dyfodol newydd yn dilyn pandemig y coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw, gan ddarparu £320m ar gyfer gwaith ail-greu uniongyrchol.
Yn ôl Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol, er bod y coronafeirws yn dal i fod gyda ni, rhaid i ran o’n hymateb ymwneud ag atal niwed tymor hwy yn sgil y feirws, yn arbennig i bobl iau a allai gael eu taro galetaf.
Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau – sy’n nodi wyth maes blaenoriaeth, gan gynnwys camau gweithredu tymor byr a thymor hir i helpu i sefydlogi Cymru wrth inni barhau i fyw gyda'r feirws a sicrhau ein bod yn barod i ailgodi pan fydd brechlyn neu feddyginiaeth wedi ei ganfod.
Lluniwyd y meysydd blaenoriaeth yn dilyn sgwrs eang gyda’r cyhoedd a sectorau allweddol ledled Cymru. Cafwyd dros 2,000 o ymatebion i’n sgwrs genedlaethol #CymruEinDyfodol.
Bydd y £320m yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau a chynlluniau ym mhob un o’r meysydd blaenoriaeth dros y chwe mis nesaf er mwyn sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael inni yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gefnogi ein hadferiad yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Mae’r blaenoriaethau allweddol a fydd yn cael eu hariannu dros y chwe mis nesaf yn cynnwys y canlynol:
- cymorth i bobl ifanc gan gynnwys darpariaeth ‘dal i fyny’ ychwanegol ar gyfer y rhai ym mlynyddoedd 11 i 13, cofrestru ehangach ar gyfer lleoedd ychwanegol mewn addysg bellach a dyfeisiau digidol i helpu dysgwyr i gael mynediad i’w cyrsiau
- buddsoddiad cyfalaf – er enghraifft, mewn tai carbon isel, ysgolion a gofal sylfaenol – i greu a gwarchod swyddi adeiladu, darparu cartrefi newydd a mwy ynni effeithlon a rhoi hwb i wasanaethau cyhoeddus
- a threchu anghydraddoldeb, yn enwedig mewn perthynas â chymunedau DALlE sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan Covid-19.
Dywedodd Jeremy Miles:
“Heb unrhyw amheuaeth, bydd ein dyfodol yn edrych yn wahanol o ganlyniad i’r coronafeiws, ond nid yw'r dyfodol hwnnw wedi’i bennu’n gadarn – ac mae gennym ni gyfle i ddylanwadu arno.
“Fel sail i’r gwaith ail-greu y mae’n rhaid i ni ei wneud, fe wnaethom ofyn i bobl ddweud wrthym ni beth oedd bwysicaf iddynt hwy yng ngoleuni eu profiad o Covid, ac mae hyn wedi helpu i ddylanwadu ar y blaenoriaethau rydym yn eu cyflwyno heddiw ar gyfer sut rydym yn ymateb ar gyfer y dyfodol.
“Fe wnaethoch chi ddweud wrthym eich bod eisiau creu dyfodol sy’n decach, lle nad oes unrhyw un yn cael ei ddal yn ôl ac sy’n rhoi sylw i’r anghydraddoldeb real iawn a ddaeth i’r amlwg yn sgil y pandemig. Dyfodol lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i bawb, lle mae cymuned yn cael ei dathlu, lle rydym yn anelu at waith teg a ffyniant i bawb, lle mae ein plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, a lle mae ein hamgylchedd naturiol yn cael ei werthfawrogi.
“Fel gyda llawer o’n hymateb hyd yma, y ffordd orau i fwrw ymlaen â’r blaenoriaethau hyn yw mewn partneriaeth ag eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector yr ydym yn gweithio â hwy yn Llywodraeth Cymru. A dim ond gyda chefnogaeth pobl Cymru y gellir bwrw ymlaen â’r rhain – pobl yr ydym yn gwbl hyderus y bydd eu hymrwymiad i’r dasg o ail-greu yn hafal i’w hymrwymiad i fynd i’r afael â phandemig Covid 19 ei hun.”
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ddofn ar bob rhan o’n bywydau, ond er gwaethaf yr heriau a’r galwadau newydd, rydyn ni’n benderfynol o barhau â’r cynnydd rydyn ni wedi ei wneud dros y pedair blynedd diwethaf i sicrhau bod Cymru yn parhau i symud ymlaen, gan gael ein harwain gan ein gwerthoedd.
“Mae eich syniadau chi wedi rhoi ymdeimlad clir inni o sut mae pobl Cymru yn teimlo y mae’r coronafeirws wedi effeithio ar eu bywydau. Mae’r blaenoriaethau ydym yn eu nodi heddiw ar gyfer ail-greu yn adlewyrchu’r pryderon hynny.
“Er bod llawer o ansicrwydd o hyd ynglŷn â’n cyllidebau y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol hon, rwy’n benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael inni i gefnogi ein hadferiad yn cael yr effaith fwyaf bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn ymateb drwy ddarparu rhywfaint o’r sicrwydd y mae mawr ei angen yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”