Neidio i'r prif gynnwy

Bydd prosiectau i wella mynediad at y cefn gwlad a rhoi hwb i gynaliadwyedd Tirweddau Dynodedig yn derbyn cyllid gwerth £7.2 miliwn, mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyfarnwyd £4.7 miliwn i Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEau). Bydd y cyllid hwn yn cael ei fuddsoddi mewn seilwaith gwyrdd fel cerbydau trydan, rhoi mesurau effeithlonrwydd ynni ar waith mewn hen adeiladau ac adfer mawndiroedd a choetiroedd.

Hefyd dyfarnwyd £100,000 i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i’w alluogi i arwain y Bartneriaeth Tirwedd Genedlaethol. Bydd y bartneriaeth hon yn meithrin perthynas weithio agos â’r holl Dirweddau Dynodedig yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau y gall Parciau Cenedlaethol ac AHNEau ddatblygu dulliau gweithredu mwy cydgysylltiedig mewn perthynas a’u heriau a’u cyfleoedd cyffredin.

Mae £1.76 miliwn arall wedi cael ei ddyfarnu i Awdurdodau Lleol i wella’r rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau ceffyl yng Nghymru, gan eu gwneud yn haws eu defnyddio ac yn fwy hygyrch i bawb. Mae hyn mewn ymateb i bobl yn ailddarganfod llwybrau troed lleol pan oeddent yn gwneud eu hymarfer corff dyddiol yn ystod cyfyngiadau COVID-19 yn ddiweddar. Hefyd mae £337,000 wedi cael ei ddyfarnu ar gyfer 11 prosiect  i wella mynediad at ddŵr,  a £309,000 i berllannau a rhandiroedd cymunedol i gefnogi prosiectau tyfu cymunedol. 

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Moel Famau yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a fydd yn elwa ar £180,000 gan y rhaglen hon i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, gwneud gwaith atgyweirio i fynd i’r afael ag erydu lwybrau a’r tir cyfagos, a lleihau llygredd golau. Hefyd mae £54,000 wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith pwysig i uwchraddio ei rwydwaith o lwybrau troed a llwybrau ceffyl.   

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Mae ein Parciau Cenedlaethol a’n AHNEau yn gorchuddio chwarter o Gymru, ac maen nhw’n bwysig iawn wrth helpu i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd.

“Er bod ein Tirweddau Dynodedig yn arbennig iawn i bobl Cymru ac yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, mae mynediad at fannau gwyrdd lleol wedi bod yr un mor bwysig yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae’r cyllid hwn yn dangos faint rydyn ni’n gwerthfawrogi ein llwybrau troed lleol a hawliau tramwy eraill.

“Yn dilyn llacio’r cyfyngiadau symud, mae llawer o’n safleoedd mwyaf poblogaidd yn y cefn gwlad wedi bod o dan bwysau sylweddol gan niferoedd uchel o ymwelwyr. Er bod y rhan fwyaf o ymwelwyr wedi ymddwyn mewn modd cyfrifol, bu achosion proffil uchel o barcio’n anghyfreithlon, taflu sbwriel a gwersylla mewn mannau sydd ddim yn cael eu rheoleiddio. Mae hyn wedi peri difrod i’n tirweddau bregus. Felly, mae’r cyllid hwn yn cynnwys prosiectau sy’n lliniaru effeithiau negyddol twristiaeth fel erydu, sbwriel a llygredd.

 “Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, mae’r angen i fuddsoddi i sicrhau profiad diogel ac o ansawdd uchel ar gyfer nifer cynyddol o ymwelwyr wedi bod yn amlwg. Mae hyn, ynghyd â’r angen i wneud cyfraniad at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yn her fawr ar gyfer ein Tirweddau Dynodedig.

“Bydd y cyllid hwn yn cefnogi ein Parciau Cenedlaethol a chyrff eraill i fynd i’r afael â’r heriau hyn ac i sicrhau y gall pawb barhau i fwynhau ein cefn gwlad am flynyddoedd lawer.”

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol dros Dai a Chymunedau, sydd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:

"Roedd yn bleser mawr gennyn ni groesawu’r Gweinidog i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac roedd hefyd yn dda iawn gennyn ni dderbyn y cyllid a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol.

“Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid a thrigolion erioed, gyda’r golygfeydd syfrdanol, y bryniau mawreddog a’r trefi a’r pentrefi hanesyddol yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

“Mae’n anochel, gyda niferoedd cynyddol o ymwelwyr, y byddwn ni’n profi rhai tagfeydd ar y ffordd yn ein hardaloedd o harddwch mwyaf poblogaidd, ac y bydd y niferoedd uchel o bobl sy’n mentro i’r bryniau’n cael effaith ar ansawdd y llwybrau troed gydag amser. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau a fydd yn mynd i’r afael â’r problemau hyn a diogelu ein tirwedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”