Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cyllid newydd yn cefnogi prosiectau arloesol i helpu i wella’r prosesau recriwtio ar gyfer gofal cymdeithasol ac i roi hwb i wariant lleol GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo £2.5 miliwn arall ar gyfer prosiectau sy’n helpu’r economi pob dydd, i wella gwasanaethau ac i ddod â swyddi gwell yn nes adre. 

Mae’r economi pob dydd, neu’r economi sylfaenol fel y’i gelwir hefyd, yn disgrifio’r swyddi sydd wrth galon ein cymunedau lleol ar draws sectorau fel gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, twristiaeth, adeiladu a manwerthu.

Mae’r amcangyfrifon yn awgrymu bod pedair o bob deg swydd, a bod £1 o bob £3 a wariwn, yn perthyn i’r categori hwn. Mae cynlluniau adfer Llywodraeth Cymru’n ymrwymo Gweinidogion i gefnogi’r economi sylfaenol fel bod mwy o wariant a phrosiectau lleol yn cefnogi swyddi a busnesau yn y gymuned.
Dyma rai o’r prosiectau sydd wedi’u dewis ar gyfer eu hariannu:

  • Gofal Cymdeithasol Cymru: £200,000 i daclo problemau cadw a recriwtio mewn cartrefi gofal, gan gynnwys cynnig 960 o leoedd hyfforddi newydd;
  • Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP): £500,000 ar gyfer cynlluniau GIG Cymru i wario £8.4m ychwanegol gyda busnesau lleol. Bydd hyn yn helpu GIG Cymru i ddatblygu ‘Cynllun iechyd Economi Sylfaenol’ fydd yn nodi sut y gall mwy o wariant GIG Cymru gefnogi economïau lleol;
  • Y Stryd Fawr Ddigidol: £200,000 i ddatblygu galluoedd digidol 1,000 o fusnesau ar y stryd fawr mewn trefi ar draws ardaloedd cynghorau Caerffili, RhCT a Blaenau Gwent trwy eu helpu i sefydlu gwasanaethau danfon a chlicio a chasglu;
  • Prosiect Micro-Ofal Sir y Fflint: mae £92,000 yn cael ei roi i’r awdurdod lleol i hyrwyddo gwasanaethau micro-ofal i ddarparu gwasanaethau gofal a chefnogi lleol. Bydd yr arian hwn yn adeiladu ar lwyddiannau’r awdurdod lleol ac yn ei helpu i sefydlu mwy o fusnesau micro-ofal a’u gwneud yn rhan hanfodol o’r gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu i ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r arian hwn yn ychwanegol i Gronfa Her yr Economi Sylfaenol sydd wedi helpu bron 50 o brosiectau i brofi ffyrdd newydd ac arloesol o wneud i’r economi pob dydd weithio’n well i holl gymunedau Cymru. Bydd y £2.5 miliwn ychwanegol sydd wedi’i neilltuo heddiw yn rhoi’r modd i’r gwaith gwerthfawr hwn barhau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Gydol y pandemig, gwnaethon ni ddibynnu fwy nag erioed ar yr economi pob dydd.  Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud mwy i wella’r gwasanaethau a’r cyfleoedd hyn i ddod â swyddi gwell yn nes adref.  Gofal cymdeithasol, bwyd, manwerthu ac adeiladu, dyma bileri’r economi sydd wedi cadw ein cymunedau’n ddiogel a bydd ein cynlluniau’n ein helpu i gryfhau’r gwasanaethau hyn.

“Mae meithrin y sectorau hyn sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau pob dydd y mae pobl ledled Cymru’n dibynnu arnyn nhw yn ganolog i gynlluniau adfer economaidd Llywodraeth Cymru.

“Bydd y £2.5 miliwn rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn ein helpu i gefnogi busnesau lleol trwy greu cyfleoedd newydd iddyn nhw dyfu a ffynnu.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Mae gofal cymdeithasol yn wasanaeth hanfodol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl trwy ei gwneud hi’n bosibl iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu drwy ddarparu gofal 24 awr y dydd mewn cartref gofal. Mae gofal cymdeithasol yn rhoi’r gefnogaeth mawr ei hangen yn y gymuned i bobl anabl allu manteisio ar gyfleoedd gwaith ystyrlon ac amrywiaeth o brosiectau eraill all hyrwyddo eu lles a milwrio yn erbyn unigrwydd. Mae’r 18 mis diwethaf wedi dangos gwerth ac ymrwymiad y rheini sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

“I helpu i hyrwyddo manteision a chyfleoedd gweithio yn y sector gofal, rydym wedi creu partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i lansio ymgyrch recriwtio ac ar y cyfryngau.  Rydyn ni wedi ymrwymo i gael y bobl iawn sydd â’r sgiliau iawn i weithio yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd yr arian hwn yn helpu i feithrin a chryfhau sylfeini ein heconomïau lleol a bydd yr ymgyrch recriwtio yn ein galluogi i annog mwy o bobl i weithio yn y sector. Trwy gefnogi a chryfhau ein gweithlu gofal cymdeithasol, gallwn sicrhau bod y cymunedau rydyn ni’n byw ynddyn nhw yn gryfach ac yn gallu gwella bywydau ledled Cymru.”