Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £300,000 yn Smile Plastics, cwmni arloesol sy’n rhoi bywyd newydd i blastig sydd wedi’i ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cwmni o Abertawe yn troi plastig gwastraff o ddeunydd pacio bwyd a choluron yn gynnyrch ar gyfer pensaernïaeth a’r diwydiant dylunio moethus. Bydd yn defnyddio’r arian i greu 18 o swyddi newydd ac i ddiogelu dwy arall, cyfraniad hanfodol at adferiad yr economi leol ar ôl y coronafeirws.

Bydd yr arian yn helpu’r cwmni hefyd i ehangu a chynyddu ei gynhyrchiant i fodloni’r galw cynyddol am ei gynnyrch gan frandiau byd-eang fel Stella McCartney a Christian Dior.

Mae’r cynnyrch hwnnw’n cynnwys arwynebau a gosodiadau lliwgar ac addurniadol wedi’u gwneud o hen blastig ar gyfer arwynebau gwaith a phaneli masnachol a chelfi a phaneli cawodydd domestig.

Bydd yn golygu y gall Smile Plastics ailgylchu mwy bob blwyddyn.

Bydd Smile Plastics yn cael benthyciad ad-daladwy o £150,000 trwy Gronfa Dyfodol yr Economi a grant o £150,000 trwy Gronfa’r Economi Gylchol sy’n cael ei gweinyddu gan WRAP Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd: 

Mae potensial Smile Plastics i dyfu yn amlwg ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r busnes arloesol hwn, sydd â datgarboneiddio yn fyrdwn iddo.

Mae creu economi gylchol ar gyfer gwastraff plastig yn gyfle anferth i economi Cymru yn ogystal ag o les i’r amgylchedd ac rwy’n disgwyl ymlaen at weld yr arian hwn yn helpu Smile Plastics i gynhyrchu cynnyrch newydd a chyffrous a gwireddu ei uchelgais wrth i’n heconomi ymadfer ar ôl y coronafeirws.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: 

Mae Cymru eisoes yn dangos y ffordd i weddill y DU o ran ailgylchu ond carem ein gweld yn mynd ymhellach a dod y wlad orau yn y byd am ailgylchu – a symud y tu hwnt i ailgylchu.

Rydym ar ein taith at economi gylchol – lle rydym yn osgoi creu gwastraff ac yn defnyddio adnoddau mor hir ag y medrwn.

Mae Smile Plastics yn enghraifft o’r modd y gellir defnyddio deunydd eildro i greu model busnes llwyddiannus sydd o fudd i’r amgylchedd ac yn sbarduno’r galw am ddeunydd wedi’i ailgylchu.

Meddai Rosalie McMillan, cyfarwyddwr Smile Plastics: 

Rydym yn falch iawn o’r £300,000 hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arian yn allweddol i feithrin ein gallu i wireddu’n gweledigaeth ar gyfer troi gwastraff yn ddeunydd addurniadol ledled y byd.

Dywedodd Bettina Gilbert, rheolwr rhaglen WRAP Cymru: 

Mae £6.5m Cronfa’r Economi Gylchol yn gyfle i weithgynhyrchwyr yng Nghymru ymgeisio am grantiau cyfalaf i gynyddu’u defnydd o blastig, papur, cerdyn a thecstilau wedi’u hailgylchu. Mae’r gronfa’n helpu paratoadau ar gyfer gweithgareddau ailddefnyddio, ailwampio ac ailgynhyrchu yng Nghymru.  Mae Smile Plastics wedi cael arian i gynhyrchu deunydd sydd wedi’i wneud yn llwyr o ddeunydd wedi’i ailgylchu ac a fydd ei hun yn gallu cael ei ailgylchu.  Dyma enghraifft wych o’r economi gylchol ar waith yng Nghymru.

“Mae WRAP Cymru wedi rhoi pum grant hyd yn hyn a fydd yn arwain at ddefnyddio mwy na 10,000 o dunelli o ddeunydd ailgylchu dros dair blynedd, ac mae ceisiadau’n dal i gyrraedd.