Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pwrpas y grŵp a sut mae'n gweithio.

Cylch gwaith

Grŵp Gorchwyl a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r Grŵp Gweithredu, a fydd yn adrodd i Weinidogion Cymru. Bydd y grŵp yn gweithio'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru er mwyn darparu argymhellion polisi ar y camau gweithredu a'r datrysiadau sydd eu hangen er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:

  • Pa fframwaith o bolisïau, dulliau gweithredu a chynlluniau sydd ei angen i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru? (Beth mae dod â digartrefedd i ben yn ei olygu mewn gwirionedd?)
  • Pa gamau y gallwn eu cymryd ar unwaith i leihau nifer yr achosion o gysgu allan rhwng nawr a gaeaf 2019/20, ac i roi diwedd ar gysgu allan yn gyfan gwbl?
  • Sut y gallwn sicrhau bod y broses o ailgartrefu pobl yn gyflym ac yn barhaol wrth wraidd y gwaith o atal, trechu a dod â digartrefedd i ben? 
  • Sut y gallwn sicrhau bod partneriaethau a chynlluniau cydgysylltiedig lleol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn atal, trechu a dod â digartrefedd i ben ledled Cymru? 

Bydd y Grŵp yn adrodd i Weinidogion Cymru wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau a'i gynnydd yn rheolaidd, ac wrth gyflwyno argymhellion terfynol yn erbyn y pedwar cwestiwn a nodir uchod.

Aelodaeth

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar aelodaeth ganlynol y Grŵp Gweithredu. Gwahoddir aelodau ar sail eu profiadau a'u harbenigedd unigol, ac felly ni chaniateir unrhyw eilyddion. 

  • Jon Sparkes (cadeirydd), Prif Weithredwr, Crisis
  • Bonnie Navarra, Comisiynydd Cynorthwyol Heddlu a Throseddu De Cymru, ar secondiad i Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Clare Budden, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn
  • Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol a Dirprwy Brif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru
  • Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau, a chadeirydd End Youth Homelessness Cymru
  • Gaynor Toft, Rheolwr Corfforaethol (Tai), Cyngor Sir Ceredigion
  • Glynne Roberts, Rheolwr Rhaglen Well North Wales, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • John Puzey, Prif Weithredwr, Shelter Cymru
  • Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru
  • Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr, The Wallich
  • Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Dr Peter Mackie, Darllenydd, Prifysgol Caerdydd
  • Tamsin Stirling, Arbenigwr rhyddgyfrannol ar ddigartrefedd a thai

Oni bai bod cworwm yn bresennol, ni ddylid pleidleisio ar unrhyw gynnig, heblaw am gynnig i drefnu cyfarfod arall. Gall y Cadeirydd osod y cworwm ar gyfer y Grŵp Gweithredu o bryd i'w gilydd, ond ni all fyth fod yn llai na saith (o'r 13 o aelodau), ac oni chaiff ei osod fel arall, saith fydd y cworwm.

Os yw cyfanswm nifer aelodau'r Grŵp Gweithredu am y tro yn llai na'r cworwm sydd ei angen, ni chaiff y Grŵp wneud unrhyw benderfyniad heblaw am benderfynu gwneud canlynol:

(a) penodi aelodau eraill o'r Grŵp Gweithredu 
(b) cyfarfod ar frys i drafod ag un o Weinidogion Llywodraeth Cymru a/neu'r Dirprwy Gyfarwyddwr.

Ysgrifenyddiaeth

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ysgrifenyddol i'r Grŵp a byddant yn gweithredu fel pwynt cydgysylltu canolog ar gyfer rhaeadru a dosbarthu deunydd cyfarfodydd a dogfennau eraill.

Egwyddorion

Bydd y Grŵp Gweithredu yn sicrhau ei fod yn mynd i'r afael â'i dasg yng nghyd-destun yr egwyddorion canlynol: 

  • Dod â gwybodaeth a phrofiad unigol i'r dasg a gadael hunaniaeth gorfforaethol wrth y drws
  • Gweithredu'n gyflym, gan gyflwyno tystiolaeth a syniadau yn y cyfarfod cyntaf un ac ymgymryd â gwaith yn ôl yr angen rhwng cyfarfodydd er mwyn sicrhau cynnydd cyflym 
  • Ysgogi a llywio newid a gwelliant 
  • Canolbwyntio ar gamau gweithredu a datrysiadau ar gyfer newidiadau uniongyrchol a hirdymor 
  • Manteisio ar dystiolaeth, gan gynnwys profiad personol uniongyrchol o ddigartrefedd a phobl a arferai fod yn ddigartref 
  • Sicrhau bod newid yn arwain at welliant drwy'r system gyfan  
  • Arwain ar draws y system gyfan gan weithio gydag ystod eang o bartneriaid a thrwyddynt. 

Wrth gyflawni'r egwyddorion uchod, bydd y Grŵp yn ystyried sut y gallant ddangos a phrofi arloesedd drwy gydol cwmpas y prosiect. 

Bydd aelodau'r Grŵp yn cyfuno eu safbwyntiau gwahanol â'r dystiolaeth i lunio argymhellion ar y cyd. Yn achos gwahaniaeth barn, bydd y Grŵp yn sicrhau y caiff safbwyntiau eu lleisio, yr eir i'r afael â nhw ac na fyddant yn amharu ar y gwaith cyflym o osod datrysiadau.  

Dyddiadau cyfarfodydd

  • Dydd Gwener 28 Mehefin 2019
  • Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2019
  • Dydd Iau 22 Awst 2019 
  • Dydd Mercher 18 Medi 2019
  • Dydd Mercher 9 Hydref 2019
  • Dydd Iau 14 Tachwedd 2019
  • Dydd Mercher 8 Ionawr 2019
  • Dydd Iau 30 Ionawr 2020
  • Dydd Iau 27 Chwefror 2020
  • Dydd Mercher 18 Mawrth 2020