Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ymgynghoriad ar ddyfodol ‘seilwaith ieithyddol’ y Gymraeg.
Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar adnoddau sy’n helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd, megis geiriaduron, adnoddau terminoleg a’r gwaith ymchwil a safoni sy’n ategu twf yr iaith.
Nod Llywodraeth Cymru yw datblygu polisi i gydlynu’n well seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn nodi bod “sicrhau bod seilwaith ieithyddol y Gymraeg...yn parhau i ddatblygu...yn rhan annatod o’r broses o weithredu’r strategaeth hon.”
Mae’r ymgynghoriad yn holi barn ynghylch datblygu polisi cenedlaethol ar adnoddau ieithyddol, ac yn cynnwys cwestiynau ynghylch defnyddio adnoddau cyffredin fel geiriaduron ar-lein.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg:
Er mwyn cynyddu nifer ein siaradwyr Cymraeg a sicrhau bod yr iaith yn parhau i ddatblygu a thyfu, mae ‘seilwaith ieithyddol’ cadarn, modern yn hanfodol. Y ‘seilwaith’ yw’r adnoddau y mae siaradwyr Cymraeg o bob math yn eu defnyddio o ddydd i ddydd – ‘brics a morter’ yr iaith.
Rydyn ni’n ffodus bod gyda ni gymaint o adnoddau iaith gwych yn y Gymraeg, ond gall hyn weithiau olygu bod yn rhaid i siaradwyr Cymraeg wneud ddewisiadau anodd, er enghraifft pa ddiffiniad neu gyfieithiad i’w ddefnyddio. Â’r gwahanol adnoddau sydd yna ar wahanol wefannau, fe allen ni greu system symlach o ddod o hyd i eiriau neu dermau Cymraeg. Hefyd does gyda ni ddim mecanwaith ffurfiol i fynd i’r afael â bylchau yn y ddarpariaeth nac i flaenoriaethu gwaith i’r dyfodol.
Mae nifer o’n cynigion hefyd, sy’n gysylltiedig â 'Chynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg', yn ceisio cefnogi’r iaith fel y caiff ei defnyddio mewn cymaint o sefyllfaoedd â phosibl. Bydd ein cynigion ar seilwaith yn help i gyfoethogi profiad y rheini sy’n defnyddio technoleg drwy’r Gymraeg, a’n nod yw darparu fersiynau digidol o adnoddau awdurdodol, yn rhad ac am ddim, i bawb sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd.
Dw i am ddechrau sgwrs gyda phawb sy’n defnyddio’r Gymraeg ynghylch sut y gallwn gydlynu ein seilwaith ieithyddol yn well, ac ystyried y ffordd orau o wneud hyn yn ymarferol.
Fe fydden ni wir yn hoffi clywed gan y bobl sy’n defnyddio’r adnoddau hyn fwyaf – o siaradwyr newydd, disgyblion ysgol neu rieni plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg i athrawon, academyddion neu gyfieithwyr llawn-amser.
Os ydych chi’n defnyddio adnoddau ieithyddol i’ch helpu gyda’ch Cymraeg, felly, rydyn ni am glywed eich barn!