Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig cefnogaeth i ffoaduriaid neu geiswyr lloches yn eich ardal

Rydym am i Gymru ddod yn Genedl Noddfa. Rydym wedi nodi’r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd yn Cenedl Noddfa: Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches.

Ei fwriad yw helpu pawb sy’n ceisio noddfa yng Nghymru i integreiddio’n dda yn ein cymunedau. Cysyniad Cenedl Noddfa yw bod Cymru gyfan yn dod at ei gilydd.

Gwyliwch ein ffilm

Gwyliwch ein fideo Genedl Noddfa ar YouTube.

Sut allwch chi helpu?

  • Allwch chi gynnig eiddo i ffoaduriaid sydd wedi cael lloches yn ddiweddar?
  • Allwch chi roi llety i rhywun sy’n ceisio lloches yng Nghymru?
  • Allwch chi roi amser i helpu rhywun i ddysgu Cymraeg neu Saesneg?
  • Ydych chi’n rhedeg busnes ac yn ystyried cyflogi ffoadur?
  • Allwch chi roi nwyddau, adnoddau neu’ch amser fel gwirfoddolwr i helpu’r cymunedau hyn?

Os allwch helpu, e-bostiwch ffoaduriaid@llyw.cymru gyda’r canlynol:

  • eich cynnig
  • y lleoliad lle y gallwch helpu
  • cadarnhad eich bod yn hapus i ni rannu eich manylion gyda’r rheini sy’n trefnu’r cymorth