Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu 9fed flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau a chyfraniadau rhyfeddol pobl o bob cefndir sy’n byw yng Nghymru neu sy’n dod o Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog ei dyfarnu i'r sefydliad ieuenctid yn y seremoni heno am bopeth y mae wedi'i gyflawni mewn canrif o wasanaethu pobl ifanc yng Nghymru, am gynnal y Gymraeg yn iaith fyw ac, yn fwyaf diweddar, am fod yn esiampl o Genedl Noddfa drwy gynnig noddfa, cymorth a diogelwch i bobl sy'n ffoi o Affganistan a’r Wcráin.

Dyma gategorïau’r gwobrau eleni:

  • Dewrder
  • Busnes
  • Ysbryd y Gymuned
  • Gweithiwr Allweddol
  • Diwylliant
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Arloesi
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Chwaraeon
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae'n wych cael bod yma yn y cnawd unwaith eto i roi gwobrau i’r bobl sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni. Maen nhw’n grŵp o bobl sy'n ysbrydoli eraill ac maen nhw’n haeddu cael eu llongyfarch ar eu cyfraniad i fywyd Cymru.

“Mae llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu eraill mewn ffordd ddewr ac anhunanol, mae rhai yn torri tir newydd yn eu meysydd, mae eraill wedi gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r amgylchedd, ac rydyn ni’n ffodus eu bod i gyd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

“Dw i’n arbennig o falch o gael canmol Urdd Gobaith Cymru yn gyhoeddus, ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, am weithio mor galed i roi croeso cynnes a Chymreig i bobl sy'n ffoi rhag trawma a thrychinebau dyngarol. Mae’r Urdd wir wedi bod yn esiampl o’r dull 'Tîm Cymru’ rydyn ni wedi'i ddatblygu ar y cyd â sefydliadau eraill sy’n bartneriaid inni. Mae’n gwneud llawer mwy na’i waith arferol ac wedi symbylu’n hymdrechion i groesawu unigolion a theuluoedd sy'n ceisio noddfa yng Nghymru.

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa, ac mae'r Urdd wedi bod yn enghraifft ysbrydoledig o’r hyn mae hynny’n ei olygu yn ymarferol.”

Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc Cymru ym maes chwaraeon a diwylliant. Yr hydref diwethaf, agorodd y sefydliad ei ganolfan breswyl yng nghysgod Senedd Cymru i ymhell dros 100 o blant a theuluoedd, a hynny’n rhan o’r cynllun adsefydlu ar gyfer pobl o Affganistan. Mae arferion gorau'r Urdd ar waith unwaith eto wrth iddi ddefnyddio canolfan breswyl i gefnogi hyd at 250 o bobl sy'n cyrraedd o'r Wcráin.

Dyma’r rhestr o enillwyr Gwobrau Dewi Sant:

  • Dewrder: Sarsiant Geraint Jenkins a PC Thomas Scourfield, Heddlu De Cymru
  • Busnes: Jordan Lea / Deal Me Out
  • Ysbryd y Gymuned: Siop Griffiths
  • Gweithiwr allweddol: Michelle Jones a Catherine Cooper, Ysgol Gynradd Landsdowne
  • Diwylliant: Berwyn Rowlands
  • Pencampwr yr amgylchedd: Y Grŵp Amgylchedd Carbon Isel / Prifysgol Caerdydd
  • Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Luca Pagano, Graham Howe, Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)
  • Chwaraeon: Hannah Mills OBE
  • Person Ifanc: Daniel Lewis
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog: Urdd Gobaith Cymru