Neidio i'r prif gynnwy

Cyn gwneud cais am gyllid yr UE, rhaid ichi gyflawni'r camau cynllunio ymlaen llaw  a pharatoi cynllun busnes.

Cyn gwneud cais am gyllid yr UE

  • cysylltwch â ni i siarad am eich syniad ar gyfer prosiect
  • darllenwch eich canllawiau gweithredol ar gyfer rhaglen briodol Cronfeydd Strwythurol yr UE
  • darllenwch eich canllawiau ar gyfer prosiectau
  • os yw eich syniad ar gyfer prosiect yn addas i wneud cais am gyllid, byddwn yn trefnu cwrdd â chi
  • byddwn yn enwi rhywun i weithio gyda chi i ddatblygu eich prosiect ymhellach
  • cwblhewch dabl i weld a yw eich prosiect yn addas ai peidio (gelwir y tabl yn 'Tabl Rhesymeg y Gweithrediad' (OLT)

Manylion cyswllt

Mae nifer o ffyrdd o gysylltu â ni:

e-bost: enquiries-wefo@llyw.cymru

ffôn: Llinell Gymorth Busnes Cymru (0300 060 3000)

Hefyd, mae croeso ichi gysylltu ag aelod o'r tîm ymgysylltu lleol. Byddant yn gallu eich helpu gyda'ch prosiect.

Y gogledd

E-bost: barbara.burchell@conwy.gov.uk

Y canolbarth

E-bost: claire.miles@ceredigion.gov.uk

Y de-ddwyrain

E-bost: lisa.jones@bridgend.gov.uk

Bae Abertawe

E-bost: jelewis@carmarthenshire.gov.uk
E-bost: bbwalters@carmarthenshire.gov.uk

Prosiectau a ddewisir i wneud cais am gyllid

Os yw eich syniad ar gyfer prosiect yn bodloni'r meini prawf ar gyfer un o raglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE, cewch wneud cais am gyllid.