Gellir dewis gwisgo bathodyn i ddangos y gallai’r unigolyn sy’n ei wisgo ei chael hi’n anodd cadw pellter cymdeithasol neu i ddangos ei fod yn pryderu am gadw pellter.
Gall cadw pellter fod yn anodd i rai pobl, fel unigolion sydd wedi colli eu golwg neu sydd ag anawsterau symud. Gall hefyd fod yn arbennig o bwysig i unigolion sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain.
Y fenter Distance Aware
Mae’r fenter Distance Aware yn hyrwyddo’r angen i bawb barhau i gadw pellter cymdeithasol.
Mae bathodynnau a laniardiau ar gael sy’n dangos i eraill o’ch cwmpas fod angen iddynt dalu sylw a rhoi digon o le i chi. Dewis personol yw gwisgo bathodyn neu laniard ac nid yw’n angenrheidiol yn ôl y gyfraith.
Mae’r holl dempledi ar gyfer y bathodynnau/posteri ar gael i’w lawrlwytho (ynghyd â chanllawiau dylunio a phecynnau cyfathrebu ar gyfer sefydliadau). Gallwch hefyd ddod o hyd i ddolenni i leoedd lle gallwch gael bathodyn neu laniard.
Mae’r fenter Distance Aware wedi cael ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr. Mae hefyd yn cael ei chefnogi gan Gomisiwn Bevan.