Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

1. Trosolwg

Gall y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid eich helpu os ydych yn profi neu'n wynebu caledi ariannol sylweddol oherwydd materion diogelwch tân sy'n effeithio ar eich eiddo.

Mae'r cynllun yn cynnig cyngor ac atebion i lesddeiliaid ynghylch eu pryderon ariannol presennol. Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys prynu eich eiddo lesddaliadol.

Os nad ydych yn profi caledi ariannol, efallai y bydd y cynllun yn gallu eich helpu beth bynnag drwy gynnig cymorth arall.