Yn y canllaw hwn
2. Cymhwysedd
I fod yn gymwys i gael cymorth gan y Cynllun Cymorth Lesddeiliaid mae'n rhaid i chi:
- fod yn berchennog eiddo mewn adeilad cymwys
- pasio'r asesiad cymhwysedd ariannol (ffurflen gwariant incwm i fesur eich incwm gwario yn erbyn diffiniad y Comisiwn Metrigau Cymdeithasol o galedi ariannol sylweddol)
Dysgwch fwy am gymhwysedd adeiladau a chymhwysedd ymgeiswyr yn y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid: canllawiau i ymgeiswyr.
Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael ichi gan y cynllun. I wirio a ydych yn gymwys i gael unrhyw gymorth dylech gwblhau a chyflwyno cais.