Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad annibynnol o Gofyn a Gweithredu o ran ei roi ar waith a’i ganlyniadau.

Mae Gofyn a Gweithredu yn broses o ymholi wedi'i dargedu i'w hymarfer ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i adnabod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.  

Ymhlith y cyfranogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil roedd hyfforddwyr Gofyn a Gweithredu, dysgwyr, cydlynwyr rhanbarthol a chydweithwyr o Gymorth i Ferched Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwerthusiad yn canfod bod y rhaglen Gofyn a Gweithredu yn cael ei gweld fel un bwysig a gwerthfawr sy'n cael effaith ledled Cymru ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan, yn unigol ac ar lefel sefydliadol / sector.

Ceir tystiolaeth bod cydnabyddiaeth eang o’r angen am Gofyn a Gweithredu, a chefnogaeth eang i nodau'r rhaglen. Teimlir mai'r model Hyfforddi'r Hyfforddwr yw'r dull mwyaf priodol o ddarparu a lledaenu'r hyfforddiant.

Mae'r adroddiad yn cynnwys pymtheg argymhelliad i'w hystyried; sy'n ymwneud â chyflwyno’r rhaglen, cynnwys y cwrs a deunyddiau hyfforddi a gwerthuso.

Adroddiadau

Gwerthuso Gofyn a Gweithredu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso Gofyn a Gweithredu (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 689 KB

PDF
689 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso Gofyn a Gweithredu (sleidiau) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Alyson Lewis

Rhif ffôn: 0300 025 8582

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.