Mae'r adroddiad yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth ac ymgysylltiad cychwynnol ag amrywiol randdeiliaid sy'n ymwneud â chynllunio, gweithredu a chyflawni'r rhaglen.
Drwy gydol cam cwmpasu’r gwerthusiad, cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau cwmpasu, ar sail un i un yn bennaf (a hynny’n rhithiol drwy Microsoft Teams neu feddalwedd fideogynadledda arall). Yn gyntaf, cynhaliwyd cyfweliadau cwmpasu rhagarweiniol (ym mis Awst a Medi 2020) gyda chwe chynrychiolydd allweddol o Lywodraeth Cymru a CCAUC.
