Mae’r adroddiadau yn nodi’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg a themâu allweddol o’r Rhaglen Beilot hyd at fis Mai 2020 ac yn rhoi’r diweddaraf ar gynnydd gyda dealltwriaeth gynnar o effaith COVID-19.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
Adroddiad interim
Canfu'r adroddiad gwerthuso cychwynnol hwn dystiolaeth gynnar fod y rhaglen beilot yn effeithiol a bod ganddi ddamcaniaeth gadarn o newid.
Mae recriwtio gweithwyr medrus iawn wedi bod yn hanfodol i lwyddiant hyd yn hyn. Mae cynnal ansawdd y gwaith yn debygol o fod yn her; wrth i fwy o ysgolion gymryd rhan, gyda'r un nifer o weithwyr medrus, mae'n debygol y bydd yr effaith yn wannach
Mae'n argymell:
- gohirio penderfyniadau am ddyfodol y peilot hyd nes y cesglir tystiolaeth bellach
- teilwra'r cynnig dysgu proffesiynol
- newidiadau i werthuso dysgu proffesiynol
- ystyried ymestyn y peilot i weithio gyda disgyblion iau
Papur atodol
Cafodd y gwaith maes ar gyfer yr adroddiad hwn ei wneud yn union cyn ac yn ystod y cyfnod pan oedd cyfyngiadau oherwydd COVID-19 yng ngwanwyn 2020.
Y prif ganfyddiadau oedd:
- yn gyffredinol, mae’r peilot yn gweithio’n dda
- mae’r ysgolion yn y rhaglen beilot mewn sefyllfa fwy parod i ddychwelyd i’r ysgol ar ôl y cyfyngiadau
- roedd y staff o’r farn bod yr hyfforddiant a’r cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant y disgyblion yn well na’r hyn oedd ar gael i staff
- mae angen dadansoddi sut mae’r rhaglen yn cydweddu â mentrau eraill mewn iechyd ac addysg
- bydd angen newid dull cyflawni’r rhaglen yn sgil COVID-19
- mae pryderon dwys am effaith y cyfyngiadau ar iechyd meddwl a llesiant disgyblion a staff ysgolion
Adroddiadau
Gwerthusiad o raglen beilot CAMHS Mewngymorth i Ysgolion: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad o'r rhaglen beilot CAMHS Mewngymorth i Ysgolion: cynnydd y rhaglen beilot ac effaith COVID-19, papur atodol i'r adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Helen Shankster
Rhif ffôn: 0300 025 9247
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.