Adroddiad yn asesu i ba raddau, a sut, y mae Mwy na geiriau wedi hyrwyddo a chefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y sector iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Mwy na geiriau
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae'r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar y cynnydd tuag at bob un o saith amcan allweddol y fframwaith olynol.
- Arweinyddiaeth leol a chenedlaethol, a pholisi cenedlaethol
- Mapio, archwilio, casglu data ac ymchwil
- Cynllunio gwasanaethau, comisiynu, contractio a chynllunio'r gweithlu
- Hybu ac ymgysylltu
- Addysg broffesiynol
- Y Gymraeg yn y gweithle
- Rheoleiddio ac arolygu
Mae hefyd yn ystyried yr hwyluswyr a’r rhwystrau i weithredu.
Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ynglyn â rôl 'Mwy na geiriau' yn y dyfodol a sut i fynd i'r afael â'r bylchau o ran cyflawni a'r rhwystrau gweithredu.
Adroddiadau
Gwerthusiad o 'Mwy na geiriau', y fframwaith strategol olynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, 2016 i 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
